Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Domestig
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 10 awr yr wythnos (2pm i 4pm yn gweithio 5 ddiwrnod yr wythnos i gynnwys penwythnosau)
Cyfeirnod y swydd
050-EA121-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug
Tref
Yr Wyddgrug
Cyflog
£22,720 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Domestig - Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd mae gennym gyfleoedd yn ein Hadran Gwasanaethau Domestig yn Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug ar gyfer unigolion brwdfrydig, llawn cymhelliant. Mae'r tîm Gwasanaethau Domestig yn gyfrifol am sicrhau bod safonau glanweithdra amgylcheddol yn cael eu cynnal ac rydym yn chwilio am Gynorthwywyr Domestig ychwanegol i gyflawni'r dyletswyddau hyn yn ein hysbyty. Bydd profiad blaenorol o weithio o fewn y diwydiant glanhau yn fuddiol ond nid yw'n hanfodol gan y bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant a goruchwyliaeth yn y swydd.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig amodau gwaith rhagorol gan gynnwys hawl hael i wyliau â thâl, tâl uwch am weithio ar y penwythnos a chyfle i ymuno â’r Cynllun Pensiwn Blwydd-dal.

Mae contractau cyflogaeth parhaol ar gael ar gyfer y swydd ganlynol:

Swydd ran amser (10 awr yr wythnos) – 2pm i 4pm – gweithio 5 diwrnod yr wythnos ar Rota i gynnwys penwythnosau

Cyfraddau cyflog yw £12 yr awr, gyda chyfraddau uwch ar gyfer gwaith a wneir ar ddydd Sadwrn (£17.28 yr awr) a dydd Sul (£22.56 yr awr)

Mae hon yn rôl gorfforol heriol. Os yw hyn i gyd yn swnio fel chi a bod gennych yr egni a'r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth gydag ymdeimlad allweddol o ofal cwsmer a ffocws i gyflawni, rydym am glywed gennych heddiw. Cliciwch i wneud cais, gan nodi pa swydd (neu swyddi) sydd fwyaf addas i chi yn y Wybodaeth Ategol yn ogystal â'r sgiliau trosglwyddadwy sydd gennych a fyddai, yn eich barn chi, o fudd i'r rôl hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Cynnal safonau glendid lloriau, dodrefn a ffitiadau, yn ogystal â thynnu marciau o waliau/rhaniadau/drysau ac ati yn unol â dulliau, safonau ac amleddau penodol..
  • Cyflawni tasgau nad ydynt yn glanhau h.y. golchi llestri, jygiau a sbectol cleifion a gwneud gwelyau gyda llieiniau glân (o fewn llety staff) yn unol â safonau ac amlder penodol.
  • Gweithredu offer glanhau, gan gynnwys offer trydanol er mwyn cyflawni'r safonau glendid penodedig.
  • Trin sbwriel at ddibenion gwaredu.
  • Ailgyflenwi cyflenwadau o dywelion llaw papur, meinwe toiled, sebon a moisturiser llaw yn ôl y gofyn
  • Monitro'r stociau o ddeunyddiau glanhau, bagiau sbwriel, meinwe toiled, tyweli llaw papur, sebon llaw a moisturiser llaw a gofyn am gyflenwad yn ôl yr angen.
  • Trefnu eich llwyth gwaith eich hun o ddydd i ddydd o fewn canllawiau amserlennu gwaith i sicrhau bod yr holl dasgau glanhau yn cael eu cwblhau i'r safon a bennwyd.
  • Cwblhau dogfennau i gofnodi 'glân llawn' wedi'u cwblhau
  • Dangos dealltwriaeth o ddulliau ac amleddau glanhau penodedig.
  • Cyfathrebu â Goruchwylwyr Domestig, cleifion, ymwelwyr, staff wardiau ac adrannau er mwyn cyflawni'r safon glendid benodedig.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau, gweithdrefnau ac arferion da'r Bwrdd Iechyd a'r Adran.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.  

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Chymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Luke Cosgrove
Teitl y swydd
Assistant Hotel Services Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 847800
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am fwy o fanylion/ ymweiladau anffurfiol,cysylltwch â:

Sharon Valentine - 01978 725306

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg