Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Therapydd Iaith a Lleferydd
Gradd 4/5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gan y Tîm Cymunedol Therapi Iaith a Lleferydd Oedolion yn ardal canolog BIPBC gyfle cyffrous i Therapydd Band 5 brwdfrydig a deinamig i ymuno â'n tîm cyfeillgar a chefnogol mewn swydd lawn amser, barhaol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dal llwyth achosion o gleifion gydag Anableddau Dysgu ac anghenion Iechyd Meddwl.
Mae'r tîm Oedolion gydag Anableddau Dysgu o fewn y tîm Therapi Iaith a Lleferydd yn y Gymuned yn asesu ac yn trin anghenion cyfathrebu a dysffagia yn y gymuned, yn gweithio ar y cyd gyda’r claf, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn darparu hyfforddiant mewn cyfathrebu a dysffagia i gleifion gydag anableddau dysgu, eu gofalwyr a’u teuluoedd yn ôl yr angen.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus radd gydnabyddedig mewn Therapi Iaith a Lleferydd a chofrestriad HCPC. Byddem yn ystyried ceisiadau gan Fyfyrwyr Therapi Iaith a Lleferydd yn y flwyddyn olaf o astudio. Byddem hefyd yn ystyried penodi yr ymgeisydd llwyddiannus ar oriau gostyngol ac ar Band 4 nes bydd y cwrs gradd wedi ei gwblhau a chymhwyster llawn fel Therapydd Iaith a Lleferydd wedi ei gadarnhau.
Byddwch yn dangos sgiliau rhyngbersonol ardderchog (gan gynnwys sgiliau arsylwi, gwrando ac empathi) i gefnogi anghenion y cleifion a’r teuluoedd, gan gydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Byddwch yn gweithio gydag Arweinwyr Tîm a chydweithwyr o fewn y gwasanaethau Therapi Iaith a Lleferydd i sicrhau tegwch, effeithlonrwydd a darpariaeth gwasanaeth deinamig.
- Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen i weithio'n
annibynnol gydag oedolion sydd wedi cael anhwylderau cyfathrebu a llyncu, gan gynnwys cwblhau hyfforddiant ôl-radd dysffagia - Gyda chymorth, byddwch yn trefnu, yn cynllunio ac yn blaenoriaethu eich llwyth achos eich hun, ac yn datblygu strategaethau priodol i reoli llwyth achosion.
- Byddwch yn gallu cyflwyno cynlluniau cyfathrebu cynhwysfawr a/neu reoli dysffagia yng nghyd-destun gweithio'n amlddisgyblaethol.
- Byddwch yn darparu lleoliadau ar gyfer myfyrwyr Therapi Iaith a Lleferydd.
- Byddwch yn goruchwylio ac yn dirprwyo’n ddiogel i staff sydd heb gymhwyso gan gynnwys cynorthwywyr Therapi Iaith a Lleferydd.
- Byddwch yn ymwneud â phrosiectau sy'n cyfrannu at ddatblygu'r gwasanaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweler y disgrifiad swydd a manyleb person wedi'u atodi am fwy o wybodaeth am brif gyfrifoldebau y swydd.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gweler Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Meini prawf dymunol
- Gweler Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gweler Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Meini prawf dymunol
- Gweler Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gweler Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Meini prawf dymunol
- Gweler Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Becky Eastley
- Teitl y swydd
- Clinical Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07919302340
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Elen Lloyd - Dirprwy Bennaeth Therapi Iaith a Lleferydd
03000855975
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector