Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Rheolwr Busnes Caffael
Gradd 6
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr:- Swyddi Gwag Cyfredol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:-
https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Os ydych yn chwilio am yrfa ym maes Caffael sy'n eich ysgogi, yn cynnig potensial ar gyfer datblygiad personol ac yn eich rhoi mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r GIG Cymru, yna mae gan Wasanaethau Caffael PCGC yrfa a fydd o ddiddordeb i chi.
Mae Gwasanaethau Caffael PCGC yn gyflogwr sefydledig sy'n cefnogi darparu nwyddau a gwasanaethau i GIG Cymru. Ein nod yw bod yn “ymgynghorydd y gellir ymddiried ynddo” ac yn bartner hollbwysig i’n cwsmeriaid ar bob mater yn ymwneud â chaffael. Rydym yn ceisio bod yn sefydliad sy’n cael argraff gadarnhaol ar bobl sy’n gweithio i ni a chyda ni, wrth gydymffurfio â set glir o werthoedd sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn gyflogwr arobryn, ac rydym yn cael ein cydnabod yn rheolaidd yn lleol ac yn genedlaethol am y gwaith a wnawn dros GIG Cymru ym myd caffael.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r rôl yn cynnwys rheoli categori gwariant ar draws yr holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau o fewn GIG Cymru, bydd yn ofynnol i'r Rheolwr Categori weithio gydag aelodau eraill yn y tîm a rhanddeiliaid ar bob lefel i sicrhau bod y strategaeth categori yn cael ei chyflawni'n effeithiol yn unol â nodau sefydliadol a pholisi. Mae'r tîm wedi'i leoli yn Nhŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd gydag elfen o weithio gartref/ystwyth fel rhan o'r rôl.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn.
Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn.
Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd.
Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol.
Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn gymwysedig hyd at CIPS Lefel 5 (Diploma Uwch) neu Wybodaeth / Profiad CIPS cyfwerth y gellir eu harddangos gan ddefnyddio’r adrannau “profiad” a “gwybodaeth” isod
Meini prawf dymunol
- ILM Lefel 4 neu gymwysterau rheoli eraill
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad pendant o gyflawni prosiectau caffael cymhleth
- Profiad o reoli mwy nag un prosiect ar y tro
- Profiad o ymdrin â deddfwriaeth contract, materion cydymffurfio ac uniondeb
- Sicrhau arbedion
- Profiad o reoli / goruchwylio staff / pobl
- Profiad o reoli risg
- Profiad o reoli categori
- Profiad o ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid a'u rheoli mewn modd proffesiynol
Meini prawf dymunol
- Ymwybyddiaeth o safonau Ansawdd a gweithio gyda pholisïau a gweithdrefnau ISO.
- Profiad cynllunio busnes
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Casglu data cynhwysfawr
- Gyfleu gwybodaeth gymhleth
- Sgiliau dylanwadu a chyd-drafod
- Hyfedredd mewn TG
- Gallu i sefydlu a chryfhau perthnasoedd gweithio effeithiol â rhanddeiliaid
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ddeall amrywiaeth o wybodaeth gymhleth am gynnyrch categori
Arall
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Keir Warner
- Teitl y swydd
- Head of Operational Procurement
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07852 717067
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector