Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Pennaeth Gwasanaethau Proffesiynol a Chlinigol
Band 8c
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr:- Swyddi Gwag Cyfredol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:-
https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i uwch reolwr profiadol arwain, siapio a dylanwadu ar ein tîm Proffesiynol a Chlinigol sy’n canolbwyntio ar bobl yn yr Is-adran Gofal Sylfaenol.
Byddwch yn arwain y tîm Gwasanaethau Proffesiynol a Chlinigol yn strategol wrth reoli’r ddarpariaeth barhaus a’r datblygiad trawsnewidiol, dan ddylanwad Byrddau Iechyd GIG Cymru, Contractwyr Gofal Sylfaenol a Llywodraeth Cymru.
I lenwi’r rôl hon yn llwyddiannus, rydym yn chwilio am uwch reolwr profiadol sydd â hanes amlwg o gyflawni prosiectau moderneiddio a thrawsnewid ar draws amgylcheddau cymhleth. Bydd gennych yr awdurdod a'r egni i gynghori a dylanwadu ar gydweithwyr a rhanddeiliaid ar y lefelau uchaf yn GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill. Yn bwysicaf oll, bydd gennych awydd i lywio ac arwain y tîm trwy gyfnod cyffrous wrth i'n gwasanaethau barhau i dyfu. Fel aelod allweddol o Uwch Dîm Rheoli Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad o weithio mewn amgylcheddau cymhleth, system gyfan a gwleidyddol sensitif ac sy’n gallu dangos arddull arweinyddiaeth cynhwysol sy’n ysbrydoli eraill.
Os ydych chi o’r farn y gallwch chi wneud gwahaniaeth a sicrhau gwerth gwirioneddol i Gymru, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan annatod fel rhan o uwch dîm rheoli’r Gwasanaethau Gofal Sylfaenol wrth osod a chyflawni’r agenda strategol ar gyfer yr is-adran. Bydd hyn wedi’i gysylltu, yn y bôn, â gweledigaeth gyffredinol y Cydwasanaethau o ddod yn sefydliad o safon fyd-eang.
Yn benodol, bydd y rôl hon yn datblygu ac yn gweithredu’r agenda foderneiddio ar gyfer y GGS o ran darparu amgylchedd cadarn a safonol i alluogi staff i lwyddo yn y sefydliad. Bydd hefyd yn brif gyswllt rhwng y GGS a’i gymunedau o gwsmeriaid a rhanddeiliaid allanol.
Bydd yn ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn meithrin perthnasoedd proffesiynol cadarn â rhanddeiliaid. Bydd hefyd yn sicrhau bod pob math o gyfathrebu o ansawdd uchel ac yn galluogi dull rhagweithiol o wella gwasanaethau yn barhaus.
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysgwyd i Radd Meistr (neu lefel gyfwerth o brofiad o weithio ar lefel uwch mewn maes arbenigol), a
- gwybodaeth ac arbenigedd helaeth mewn nifer o feysydd arbenigol, a gafwyd trwy ddiploma ôl-raddedig neu brofiad neu hyfforddiant cyfatebol.
- Gwybodaeth arbenigol am sawl disgyblaeth a swyddogaethau a gafwyd dros gyfnod sylweddol o amser.
- Gwybodaeth ymarferol am nifer o grwpiau proffesiynol o randdeiliaid GIG Cymru a phrofiad o gyflawni’r gofynion perfformiad gweithredol, systemau gwybodaeth a datblygu gwasanaethau a fynnir.
Meini prawf dymunol
- Yn gymwys i Lefel Ymarferydd MSP neu PRINCE2
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth ar draws yr amrywiaeth o ddisgyblaethau rheoli cyffredinol.
- Profiad sylweddol o uwch reoli a gwybodaeth ymarferol am nifer o systemau rheoleiddio Gofal Sylfaenol o fewn GIG Cymru.
- Profiad manwl o systemau rheoli ariannol a rheolaeth gyllidebol gysylltiedig.
- Profiad trawsnewidiol mewn rôl datblygu sefydliadol.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn gyda’r gallu i gyfathrebu ar faterion cymhleth iawn a sefyllfaoedd anodd.
- Sgiliau dadansoddol lefel uchel a’r gallu i dynnu data ansoddol a meintiol o ystod eang o ffynonellau ac asesu opsiynau, gan ddod i gasgliadau priodol.
- Sgiliau rhesymu lefel uchel.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Scott Lavender
- Teitl y swydd
- Deputy Director of Primary Care Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07951 928 019
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector