Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Swyddog Gweinyddu Busnes, y Gwasanaeth Negesydd Iechyd
Gradd 3
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr:- Swyddi Gwag Cyfredol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:-
https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn swyddogaeth Tîm Gwasanaethau Caffael, Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i Swyddog Gweinyddu Busnes yn y Gwasanaeth Negesydd Iechyd (HCS). Bydd deiliad y swydd yn bennaf gyfrifol am ddarparu cymorth gweinyddol busnes o ansawdd uchel i’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd. Lleoliad y swydd fydd Storfeydd Rhanbarthol y GIG yn Ninbych.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio mewn swyddogaeth debyg, yn ddelfrydol mewn swyddogaeth Cadwyn Gyflenwi/Trafnidiaeth. Deiliad y swydd fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer tasgau gweinyddol yn y Gwasanaeth Negesydd Iechyd ac ymdrin ag ymholiadau arferol gan gynnwys cofnodi archebion ar Oracle. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gael dyfynbrisiau am nwyddau a gwasanaethau gofynnol a gweithio gyda'r tîm Caffael i sicrhau bod nwyddau/gwasanaethau'n cael eu darparu yn ôl yr angen.
Mae timau wedi'u lleoli ledled Cymru, felly mae sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i feithrin perthnasoedd gwaith da yn hanfodol. Bydd deiliad y swydd yn gallu ymateb yn effeithlon ac effeithiol i geisiadau a wneir gan ddefnyddwyr gwasanaeth i gynorthwyo gyda gweithrediad llyfn y gwasanaeth.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ/y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi/CILT (Tystysgrif mewn Cludiant Logisteg)/Tystysgrif mewn Gweinyddu Busnes Lefel 3 neu brofiad cywerth
- Addysg i safon TGAU neu gywerth
- Gwybodaeth a hyfforddiant ar ddefnyddio Oracle neu system debyg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o brosesau a gweithdrefnau Gweinyddu mewn amgylchedd swyddfa brysur
- Profiad mewn gweinyddu fflyd a logisteg
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Safon uchel o sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig - y gallu i gyfleu a chael gwybodaeth a chwblhau’r holl ddogfennau angenrheidiol yn gywir, yn ddealladwy ac o fewn amserlenni gofynnol
- Rhesymegol, a’r gallu i ddatrys problemau â synnwyr cyffredin.
- Yn gallu gweithio ar eich pen eich hun heb lawer o oruchwyliaeth neu fel aelod o dîm
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.
- Gallu teithio’n annibynnol i safleoedd eraill. Efallai bydd gofyn teithio o bryd i’w gilydd e.e. i gyfarfodydd/hyfforddiant mewn lleoliadau eraill.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Hannah Suddick
- Teitl y swydd
- HCS Business Support Unit Supervisor
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02921 500676
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector