Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Dadansoddwr Busnes er budd Trawsnewid
Gradd 7
Trosolwg o'r swydd
Dadansoddwr Busnes er budd Trawsnewid hon yn darparu gwasanaethau dadansoddi busnes i brosiectau a thimau o fewn AaGIC. Bydd y Dadansoddwr Busnes fel arfer yn gweithio ar lawer o aseiniadau ar y cyd; byddant yn amrywio o ran maint a chymhlethdod a’r pecynnau gwaith yn amrywio o ran hyd, rhai’n para ychydig wythnosau ac eraill i’w cynnal dros gyfnod o fisoedd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Bydd y rôl hon yn darparu gwasanaethau dadansoddi busnes i brosiectau a thimau o fewn AaGIC. Bydd y Dadansoddwr Busnes fel arfer yn gweithio ar lawer o aseiniadau ar y cyd; byddant yn amrywio o ran maint a chymhlethdod a’r pecynnau gwaith yn amrywio o ran hyd, rhai’n para ychydig wythnosau ac eraill i’w cynnal dros gyfnod o fisoedd.
- Ffocws y swyddogaeth Dadansoddi Busnes yw pennu gofynion/anghenion rhanddeiliaid, a all fod yn dechnegol eu natur, gan eu diffinio a’u dogfennu’n glir. Fodd bynnag, mae hon yn rôl ‘cylch oes cyflawn’ a fydd o bosibl yn rhychwantu datblygiad achosion busnes hyd at eu hadolygiad gweithredol o ran pennu anghenion, dylunio, datblygu, profi a gweithredu.
- Bydd y Dadansoddwr Busnes hefyd yn cynorthwyo defnyddwyr yn ystod y broses o draddodi’r rhaglen ac yn ystod y cyfnod ‘busnes fel arfer’. Rhaid cofio y bydd pontio gweithrediadau busnes yn orchwyl ailadroddol drwy gydol oes y rhaglen a thu hwnt.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:
- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,
- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,
- Gyda'n Gilydd fel Tîm
Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.
Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysgedig ar lefel Meistr (neu’n meddu ar gymhwyster / profiad cyfatebol).
- Ymwybyddiaeth o werth unigryw AaGIC a’r modd y mae’n cynorthwyo’r GIG.
- Cynefindra ag offer modelu, mapio prosesau ac offer dadansoddi (e.e. Enterprise Architect), dulliau a safonau (e.e. UML, BPMN).
- Gwybodaeth fanwl a thrylwyr am dechnegau modelu busnes a phrofiad o gaffael canlyniadau modelu a’u mynegi i uwch-reolwyr i sicrhau eu cydwelediad.
- Gwybodaeth am brosesau a dulliau hwyluso busnes i ddeall effaith newidiadau arfaethedig a’r modd y mae prosesau, systemau, strwythurau, data a rolau a chyfrifoldebau busnes oll yn rhyngweithio â'i gilydd.
- Hyfedredd TG ar lefel arbenigol (Microsoft).
Meini prawf dymunol
- Meddu ar gymhwyster proffesiynol Dadansoddi Busnes cydnabyddedig (neu’n ymgyrraedd at gymhwyster o’r fath), megis Diploma Rhyngwladol BCS mewn Dadansoddi Busnes.
- Gwybodaeth weithredol am y GIG a datblygiadau cenedlaethol a mentrau polisi.
- Dealltwriaeth a gwybodaeth am derminoleg a gofynion gwybodaeth y gwasanaeth iechyd.
- Dealltwriaeth o brosesau datblygu a sicrwydd Gwybodeg GIG Cymru, gan gynnwys Proses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth GIG Cymru.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o ysgwyddo rôl gwybodaeth/dadansoddwr.
- Profiad o weithredu amrywiaeth o dechnegau dadansoddol mewn perthynas â gwybodaeth a mesur uniondeb y canlyniadau’n seiliedig ar asesiad o’r ffynonellau a’r technegau a ddefnyddir.
- Profiad o weithgareddau a thechnegau ymgynghori gan gynnwys hwyluso grwpiau rhanddeiliaid.
- Profiad o ddadansoddi, asesu a newid prosesau, gan gynnwys ffactorau ariannol, diwylliannol, technolegol, sefydliadol ac amgylcheddol.
- Profiad pellach o bennu gofynion cwsmeriaid gan ddynodi sut maent yn cydgysylltu â gofynion prosesau.
- Arbenigedd o ran gweithredu technegau, dulliau ac offer Dadansoddi Busnes; profiad o weithredu technegau, dulliau ac offer Dadansoddi Busnes yn ogystal â gwella’u cymhwysiad.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol yn y sector cyhoeddus.
- Dealltwriaeth o ofynion Gwybodaeth a TG clinigol/gweinyddol y GIG.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i gyfathrebu â staff hyd at lefel uwch ynghylch prosesau busnes neu brosesau clinigol cymhleth.
- Y gallu i feistroli technolegau a systemau TG newydd yn gyflym trwy gyfrwng cyrsiau hyfforddiant arbenigol a hunanastudiaeth.
- Y gallu i drefnu’ch gwaith eich hun yn effeithiol a gweithio ar eich liwt eich hun.
- Y gallu i hyfforddi a mentora eraill. Rheoli datblygiad proffesiynol staff.
- Y gallu i fod yn wrandäwr gweithredol ac i deilwra dulliau o gyfathrebu i'r gynulleidfa.
- Y gallu i gynllunio, dogfennu a blaenoriaethu’ch baich gwaith eich hun ac aelodau staff eraill mewn modd rhagweithiol.
Meini prawf dymunol
- Ymwybyddiaeth o sgiliau dylunio cronfeydd data perthynol ac SQL.
- Ymwybyddiaeth o feddalwedd adrodd ar gyfer Cronfeydd Data.
- Profiad neu gymwysterau sy’n meithrin sgiliau rheoli prosiectau (PRINCE 2/Agile). Mae sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol – lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Abby Forster
- Teitl y swydd
- Head of Digital Transformation
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector