Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Swyddog Cynorthwyol Busnes Caffael
Gradd 5
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr:- Swyddi Gwag Cyfredol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:-
https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi i Swyddog Cynorthwyol Busnes Caffael 5 ymuno â Thîm Caffael Rheng Flaen, Gwasanaethau Caffael - Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn Nhŷ Woodland, Caerdydd.
Os ydych yn chwilio am yrfa ym maes Caffael sy'n eich ysgogi, yn cynnig potensial ar gyfer datblygiad personol ac yn eich rhoi mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i GIG Cymru, yna mae gan Wasanaethau Caffael PCGC yrfa a fydd o ddiddordeb i chi.
Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa gaffael mewn amgylchedd deinamig, heriol a phroffil uchel. Yn ychwanegol at y meini prawf a amlinellir yn y fanyleb, dylech ddangos sut rydych chi'n rhoi craffter masnachol ar waith ac yn defnyddio sgiliau i gyflawni yn yr amgylchedd cymhleth sy’n newid ledled GIG Cymru. Mae angen personoliaeth wydn a thystiolaeth o ddarparu atebion creadigol ac arloesol er mwyn llwyddo yn y rôl hon.
Bydd yn gweithio o’r swyddfa i ddechrau am 8-12 wythnos at ddibenion hyfforddi ac yna bydd yn dilyn y polisi gweithio ystwyth
Prif ddyletswyddau'r swydd
PCGC – Mae Gwasanaethau Caffael PCGC yn Wasanaethau Caffael sefydledig sy’n cynorthwyo Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf. Rydym yn wasanaeth sydd wedi ennill gwobrau, ac rydym yn canolbwyntio ar werth am arian, diogelwch, rhagoriaeth, arloesedd ac ansawdd. Yn Wasanaeth Caffael mae’n rhaid i ni ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau i randdeiliaid a chwsmeriaid, gan sicrhau bod y cynnyrch, y ddarpariaeth neu’r gwasanaeth cywir wedi’i gyrchu a’i gyflenwi’n effeithlon ac am y pris cywir i Gymru gyfan. Ein nod yw rhoi proses gaffael ddi-dor ar waith sy’n rhyddhau amser fel bod modd canolbwyntio ar ofalu am gleifion, ynghyd â datblygu agwedd tuag at gaffael sy’n seiliedig ar werth ac sydd â chleifion yn ganolbwynt iddi.
Mae gan Dîm Caffael PCGC swydd wag ar gyfer Swyddog Busnes Caffael.
Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa gaffael mewn amgylchedd deinamig, heriol a phroffil uchel yn genedlaethol. Yn ychwanegol at y meini prawf a amlinellir yn y fanyleb, dylech ddangos sut rydych chi'n rhoi craffter masnachol ar waith ac yn defnyddio sgiliau i gyflawni yn yr amgylchedd cymhleth sy’n newid ledled GIG Cymru. Mae angen personoliaeth wydn a thystiolaeth o ddarparu atebion creadigol ac arloesol er mwyn llwyddo yn y rôl hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn.
Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn.
Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd.
Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol.
Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwhysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymwys hyd at Lefel 4 (Diploma) CIPS neu Wybodaeth / Profiad CIPS cyfatebol y gellir eu harddangos
- Gallu diffinio eich dealltwriaeth o: Rheoli categori, Rheoli risg
- Dealltwriaeth o'r dylanwadau allanol a allai effeithio ar Wasanaethau Caffael yn GIG Cymru."
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o gaffael yr UE.
- Dealltwriaeth o wella prosesau a pherfformiad, egwyddorion arferion gorau a meincnodi"
- Gwybodaeth am brosesau / gweithdrefnau Caffael Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu sbarduno ac arwain gwaith casglu data cynhwysfawr ar gynhyrchion a chyflenwyr
- Gallu cyfleu gwybodaeth gymhleth yn effeithiol i grwpiau amlddisgyblaethol o staff a chwsmeriaid ar bob lefel
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad y gellir ei phrofi o gyflawni prosiectau caffael cymhleth
- Profiad o reoli prosiectau lluosog ar yr un pryd
Meini prawf dymunol
- Ymwybyddiaeth o safonau Ansawdd a gweithio gyda pholisïau a gweithdrefnau ISO.
- "Dangos profiad o gyfrannu at brosesau cynllunio busnes; cynorthwyo i ddatblygu cynllun contract a chynllun arbedion."
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Evans
- Teitl y swydd
- Senior Procurement Business Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector