Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwyddor/Ffisioleg Anadlol
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Diwrnodau)
Cyfeirnod y swydd
100-HS010-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/05/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
07/06/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ffisiolegydd/Gwyddonydd Anadlol Uwch

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i arweinydd profiadol neu ddarpar arweinydd ddatblygu diagnosteg anadlol a gwasanaethau cwsg yng Ngheredigion. Bydd yn gweithio'n annibynnol i ddarparu gwasanaethau yn ardal Ceredigion, gan gefnogi hyfforddeion STP a PTP. Bydd Ffisiolegydd neu Wyddonydd Anadlol Uwch yn y Bwrdd Iechyd yn darparu arweiniad clinigol ar gyfer y timau ffisiolegwyr anadlol yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, a bydd yn gweithio gydag uwchffisiolegwyr cwsg yn Ne Sir Gaerfyrddin. 

Rydym yn cynnig ystod o ymchwiliadau diagnostig anadlol ac yn darparu gwasanaeth cwsg lleol. Mae ein gwasanaeth yn cael ei gefnogi gan feddygon ymgynghorol anadlol a nyrsys arbenigol brwdfrydig a blaengar yn y Bwrdd Iechyd. Rydym yn cynnal cysylltiadau cadarn â'n darparwr addysg lleol. 

Dylai fod yn barod i ymgymryd â heriau arweinyddiaeth a datblygu gwasanaethau mewn tîm llawn cymhelliant sydd wedi'i wasgaru ledled ardal ddaearyddol eang Hywel Dda. Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n hymrwymiad i sicrhau ansawdd ein gwasanaethau. Rydym yn annog ymchwil ac ymgysylltiad agored wrth gynllunio a darparu gwasanaethau. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yn amlygu cymhwysedd ac ymreolaeth wrth gyflawni ei waith, yn ymgymryd ag amrywiaeth o ymchwiliadau anadlol manwl, cymhleth iawn ym meysydd arbenigeddau anadlol a chwsg, gan ddehongli'r canlyniadau yn seiliedig ar sgiliau a gwybodaeth ddamcaniaethol ddatblygedig iawn. 

Cynllunio a chyflenwi gwasanaethau diagnostig a darparu cyngor arbenigol iawn i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Dehongli safonau lleol a chenedlaethol er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i'r safon uchaf posibl.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bod yn arweinydd clinigol ledled y Bwrdd Iechyd ar gyfer diagnosteg anadlol, a chydweithio'n agos â’r timau anadlol ar draws safleoedd i ddatblygu a gwella gwasanaethau ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Cydweithio'n agos ag arweinydd y gwyddorau cwsg i ddatblygu a gwella gwasanaethau ledled rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd yr arweinydd clinigol yn gweithredu yn rôl mentor i staff sy'n cynnal ymchwiliadau anadlol, gan fynd ati i annog amgylchedd dysgu a chefnogi myfyrwyr a staff iau i feithrin eu gwybodaeth a'u sgiliau.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 07/06/2024.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • BSc mewn Ffisioleg Glinigol (Anadlol) neu gymhwyster cyfatebol, a phrofiad clinigol.
  • Cofrestriad Proffesiynol Perthnasol, e.e. Y Cyngor Cofrestru ar gyfer Ffisiolegwyr Clinigol (RCCP), Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
  • Y Gymdeithas Technoleg a Ffisioleg Anadlol (ARTP), Rhan 1 a 2, cyfunol neu gyfatebol, a phrofiad clinigol.
  • Tystiolaeth o gymhwyster ôl-raddedig perthnasol mewn arbenigedd cysylltiedig hyd at lefel meistr, neu brofiad cyfatebol.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster neu ddysgu cydnabyddedig mewn addysgu neu fentora.
  • Cymhwyster neu ddysgu cydnabyddedig mewn arwain neu reoli.
  • Cymhwyster neu ddysgu cydnabyddedig mewn gwella neu newid gwasanaethau.
  • Sgiliau asesu clinigol.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwysedd ac ymreolaeth brofedig wrth gyflawni ymchwiliadau anadlol a chwsg arbenigol iawn a amlinellir yn y disgrifiad swydd, ac adrodd arnynt.
  • Profiad o hyfforddi a goruchwylio myfyrwyr ac eraill.
  • Profiad o arwain neu reoli maes neu wasanaeth.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddarparu clinigau uwch.
  • Profiad o arwain a rheoli tîm.
  • Profiad o reoli cymwyseddau clinigol mewn tîm.
  • Pofiad o reoli ansawdd a chylchoedd gwelliant neu newid.

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu teithio a chludo cyfarpar i glinigau oddi ar y safle mewn modd amserol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Nerys James
Teitl y swydd
Cardiac & Respiratory Healthcare Sciences Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 266300
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg