Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Band 4
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC080-0424-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Hafan Derwen
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flwyddyn ( pro rata )
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
30/05/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
06/06/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynorthwyydd Cyfrifon

Band 4

Trosolwg o'r swydd

Cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau Rheolaeth Ariannol cadarn i fodloni'r agwedd hon ar ddyletswyddau ariannol y Bwrdd Iechyd. Dadansoddi ac adrodd ar incwm a gwariant i ddeiliaid y gyllideb a'r uwch-staff cyllid. Cyfrannu at lunio adroddiadau ariannol misol, monitro ffurflenni, 
cyfrifon blynyddol a gosod cyllidebau. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant a medrus iawn ymuno a'r Tîm Cyfrifyddu Rheoli. Mae'r swydd hon yn darparu cymorth uniongyrchol i'r Uwchgynorthwywyr Cyfrifyddu, a bydd hefyd yn cefnogi'r timau Partneriaeth Busnes i ddarparu gwybodaeth reoli ariannol gref, strategol ac o ansawdd uchel, cymorth busnes a chymorth ariannol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ar gyfer adrannau'r Bwrdd Iechyd.

Byddwch yn feddyliwr beirniadol sy'n meddu ar sgiliau datrys problemau cadarn, sy'n rhoi sylw trylwyr i fanylion ac sydd a'r gallu i ddod yn gyfarwydd a gwybodaeth newydd yn gyflym. 

Yn ddelfrydol, byddai'r ymgeiswyr yn astudio ar gyfer cymhwyster y Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) neu CCAB/Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), neu'n meddu ar brofiad perthnasol sylweddol.

Gweithio i'n sefydliad

 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy: 
•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
•    Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
•    48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 06/06/2024

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • 5 TGAU i gynnwys Mathemateg
  • Cymwysterau Safon Uwch neu gyfwerth
  • AAT Technician LevelLefel Technegydd AAT
Meini prawf dymunol
  • Yn astudio ar gyfer cymhwyster AAT, CCAB llawn neu gymhwyster cyfatebol, neu'n rhannol gymwys

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o Gyfrifon
Meini prawf dymunol
  • Profiad o'r systemau Oracle
  • Profiad yn y GIG

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg Lefel 1

Other

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lynne Jones
Teitl y swydd
Finance Business Partner
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 248613
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg