Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Technegydd Therapi Galwedigaethol
Gradd
Gradd 4
Contract
3 blynedd (Cyfnod penodol / secondiad tan 31/08/2027)
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS100-0424
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Llanion
Tref
Doc Penfro
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/05/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
29/05/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-weithiwr Cymorth/Ymarferydd Cynorthwyol Therapi Galwedigaethol

Gradd 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan  31/08/2027 .Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael gyda'r Gwasanaeth Anableddau Dysgu Cymunedol i Oedolion, y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn Sir Benfro. Mae'r Gwasanaethau Anableddau Dysgu yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau blaengar o ansawdd uchel, gan weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill. 

Mae rôl Ymarferydd Cynorthwyol Therapi Galwedigaethol yn hanfodol o ran cefnogi'r gwaith o weithredu ymyriadau therapiwtig, a hynny dan arweiniad y therapydd galwedigaethol cymwys. Bydd yn gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol sy'n cefnogi defnyddwyr gwasanaethau i gynyddu 
eu hannibyniaeth a chyflawni eu nodau personol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n annibynnol ac ochr yn ochr â'r Therapydd Galwedigaethol ac aelodau eraill o'r tîm, i ddarparu ymyriadau therapiwtig wedi'u hasesu, sy'n ystyrlon i'r unigolyn, ac a allai gynnwys, er enghraifft, dechnegau 
datblygu sgiliau, darparu cymorth a chyngor, yn ogystal â darparu cyfarpar. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau a fydd yn cynnwys ysbytai, cartrefi unigolion, sefydliadau addysgol a chyfleusterau cymunedol a hamdden. 

Mae'r gallu i addasu, sgiliau cyfathrebu da a hunangymhelliant i gyd yn hanfodol i'r rôl.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gweithio yn rhan o dîm dynodedig i ddarparu gwasanaeth Therapi Galwedigaethol sy'n effeithiol ac yn effeithlon i wella iechyd a llesiant pobl, yn unol â'r hyn a ddirprwyir gan Therapyddion Galwedigaethol. 
Darparu'r gwasanaeth mewn modd ac mewn lleoliad sy'n briodol i anghenion y grŵp cleientiaid, gan ddilyn canllawiau, protocolau, polisïau a llwybrau gofal cytunedig. Gall hyn gynnwys gweithio gyda chyd-weithwyr neu ar eich pen eich hun; gydag unigolion a grwpiau; yng nghartrefi pobl, 
mewn lleoliadau yn y gymuned ac mewn ysbytai. 
Darparu gwasanaeth i grŵp cleientiaid dynodedig, yn seiliedig ar arweiniad y therapydd galwedigaethol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda llwyth achosion dirprwyedig, cynnal asesiadau penodol, datblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a darparu ymyriadau, a 
hynny yn annibynnol, yn rhan o gynllun gofal cyffredinol. 
Cydweithio â staff o fudiadau Iechyd, o Awdurdodau Lleol ac o fudiadau'r Trydydd Sector i gyflawni'r canlyniadau gorau. 
Cefnogi gweithrediadau'r tîm, gan ddelio ag ymholiadau mewn modd priodol ac ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol sy'n berthnasol i'r rôl. 

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 29/05/2024

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o gymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r gweithle, NEU hyfforddiant, cymwysterau neu brofiadau cyfatebol eraill
  • Tystiolaeth o gymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r gweithle, NEU hyfforddiant, cymwysterau neu brofiadau cyfatebol eraill
  • Tystiolaeth o gymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r gweithle, NEU hyfforddiant, cymwysterau neu brofiadau cyfatebol eraill
  • Tystiolaeth o gymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r gweithle, NEU hyfforddiant, cymwysterau neu brofiadau cyfatebol eraill
  • Gwybodaeth dda am Therapi Galwedigaethol trwy brofiad a/neu hyfforddiant a gafwyd
  • Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig
  • Gwybodaeth am rolau grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithaso
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o weithgareddau DPP sy'n gysylltiedig â'r rôl
  • Hyfforddiant Asesydd Dibynadwy mewn cyfarpar ac addasiadau
  • Gwybodaeth am Lywodraethu Clinigol, yn cynnwys ymchwil ac archwilio
  • Gwybodaeth am fesurau canlyniadau perthnasol i amlygu effeithiolrwydd ymyriadau
  • Gwybodaeth am fesurau canlyniadau perthnasol i amlygu effeithiolrwydd ymyriadau
  • Gwybodaeth am amrywiaeth o ymyriadau adsefydlu ar draws pob therapi

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Ystod eang o brofiad o weithio mewn gwasanaeth therapi neu mewn maes perthnasol arall. Gall hyn gynnwys profiad gwirfoddol yn ogystal â phrofiad cyflogedig
  • Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bobl ag anghenion gwahanol
  • Gweithio'n rhan o dîm
  • Gweithio'n annibynnol.
  • Rheoli eich amser eich hun a blaenoriaethu gweithgareddau
  • Cyfrannu at wella gwasanaethau
  • Hunanddatblygiad a dysgu
  • Defnyddio technegau wedi'u haddasu i wella annibyniaeth y claf
Meini prawf dymunol
  • Defnyddio technegau wedi'u haddasu i wella annibyniaeth y claf
  • Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
  • Goruchwylio staff
  • rofiad o ddefnyddio dull cyfweld ysgogiadol neu ymyriadau sy'n canolbwyntio ar atebion
  • Profiad o ymdopi'n annibynnol â sefyllfaoedd trallodus neu emosiynol mewn amgylcheddau gwaith herio
  • Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu rhithwir, h.y. Skype, Teams, Zoom

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu rhithwir, h.y. Skype, Teams, Zoom
  • Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Barbara Strobel
Teitl y swydd
Clinical Lead Occupational Therapist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 244388
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Karry Hrysicos - [email protected]

01437 772819

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg