Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Prosiectau, Cynllunio, Gweinyddol
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener))
Cyfeirnod y swydd
100-AC112-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Adeilad 8, Parc Dewi Sant
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/06/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
10/06/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Swyddog Cymorth Rhaglenni Cyfalaf – Cynllunio

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd, a fydd yn adrodd i'r Pennaeth Cynllunio Cyfalaf, yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu, gweithredu a llywodraethu'r portffolio cyfalaf sy'n hyrwyddo diwylliant o ragoriaeth. Mae hyn yn cynnwys hwyluso ystod eang o weithgareddau cynllunio cyfalaf i gyflawni cynlluniau cyfalaf ledled Bwrdd Iechyd y Brifysgol, gan ganolbwyntio ar lywodraethu prosiectau a mecanweithiau sicrwydd sy’n rhoi sylw i amcanion sefydliadol, risgiau allweddol, gwaith craffu allanol, a gofynion rheoliadol, ac ati.

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol trwy ddarparu cymorth ac arbenigedd mewn perthynas â sicrwydd ar ran y tîm Cynllunio Cyfalaf.

Mae'r rôl yn gofyn am wybodaeth am brosesau sicrwydd gyda damcaniaeth a phrofiad yn sail i'r wybodaeth honno, gan y bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gweithredu systemau sicrwydd cadarn ar ran y Bwrdd. 

 

 

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu cymorth busnes o fewn y Tîm Cynllunio Cyfalaf trwy wneud y canlynol:

Bod yn sianel gyfathrebu allweddol ar gyfer cyd-weithwyr uwch yn y Bwrdd Iechyd, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol eraill, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Datblygu fframwaith rheoli cyfalaf cadarn ynghyd â pholisïau a phrotocolau llywodraethu cysylltiedig.

Darparu cymorth gweinyddol, dadansoddol a chymorth busnes rhagorol o ran prosiectau, a hynny i'r Pennaeth Cynllunio Cyfalaf a'r tîm Cynllunio Cyfalaf ehangach. Bydd deiliad y swydd yn gyswllt llinell gyntaf ar gyfer ymholiadau allanol a mewnol, gan ddarparu cymorth gweinyddol, a gofynnir iddo hefyd gyfrannu mewn modd rhagweithiol at y gwaith o gynllunio a chyflawni prosiectau.

Cefnogi'r gwaith o reoli, rhedeg a gweithredu allbynnau o'r Is-bwyllgor Cyfalaf.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy: • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
• Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
• 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
• Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am benodi Swyddog Cymorth Rhaglenni Cyfalaf i ymuno â'i Dîm Cynllunio. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o dîm i gefnogi'r gwaith o ddarparu rhaglen uchelgeisiol o brosiectau cyfalaf dros y blynyddoedd i ddod. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Tîm Cynllunio Cyfalaf i weithredu portffolio mawr o brosiectau cyfalaf i gyflawni nodau ac amcanion Strategaeth y Bwrdd Iechyd, sef 'Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach,' ac yn benodol, adeiladu ar ddatblygiadau cadarnhaol i gyflawni prosiectau cyfalaf o fewn strwythur rheoli a llywodraethu cadarn. 

Mae sgiliau trefnu ardderchog, sgiliau llafar ac ysgrifenedig, ynghyd â gwybodaeth am raglenni cyfrifiadurol yn hanfodol

Trwy'r swydd hon bydd yna gyfleoedd i ennill profiad mewn nifer o feysydd gwaith gwahanol o fewn cylch gwaith y Tîm Cynllunio. 

Os hoffech drafod y swydd hon ymhellach, cysylltwch â

[email protected]

[email protected]

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.


Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 


Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

 
Cynhelir y cyfweliadu ar 10/06/2024  a 14/06/2024

 

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd neu brofiad cyfatebol/DPP
  • Dealltwriaeth o brosesau rheoli prosiectau
  • Sgiliau profedig wrth ddefnyddio Outlook, Access, Word, PowerPoint, ac Excel yn MS Office
  • Gwybodaeth am systemau a phrosesau sicrwydd, a phrofiad ohonynt
Meini prawf dymunol
  • Ymrwymiad i/Tystiolaeth o hyfforddiant a datblygiad personol parhaus mewn maes cysylltiedig
  • Cymhwyster rheoli prosiectau

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau
  • Profiad o weithio'n unol â thargedau a chanlyniadau
  • Profiad o waith pwyllgor ac o ysgrifennu cofnodion
  • Profiad o weithio ar brosiectau (naill ai gwasanaeth neu gyfalaf)
Meini prawf dymunol
  • Profiad yn y sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol neu'r sector gofal cymdeithasol
  • Ymwybyddiaeth o reolaethau ariannol a chyllidebol
  • Profiad o roi cyflwyniadau a darparu briffiau

language Skills

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Clare Emanuel
Teitl y swydd
Capital Programme Manager Planning
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Os hoffech drafod y swydd hon ymhellach, cysylltwch â

[email protected]

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg