Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ymarferydd Cynorthwyol
Gradd
Band 4
Contract
Bancio yn ol yr angen
Oriau
Gweithio hyblyg - 0 awr yr wythnos (Mae'n ofynnol cyfranogi mewn diwrnodau hir ac ar benwythnosau)
Cyfeirnod y swydd
100-BANK-ACS001-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
Tref
Hwlffordd
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59
Dyddiad y cyfweliad
28/05/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymarferydd Cynorthwyol Radiograffeg Banc

Band 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn awyddus i recriwtio Ymarferydd Cynorthwyol Radiograffeg Cronfa cymwysedig sydd â'r egni a'r brwdfrydedd i ddefnyddio a datblygu ei sgiliau clinigol trwy ymuno â'n tîm radiograffeg dynamig. Gan mai swydd cronfa yw hon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg i anghenion y gwasanaeth. Mae croeso i radiograffwyr newydd gymhwyso sy'n aros am gofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal wneud cais.

Mae'r swydd hon wedi cael ei datblygu i gefnogi'r heriau staffio a gweithredol yn yr adran radiograffeg gyffredinol yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd fod yn rhagweithiol a gweithio'n dda dan bwysau, ynghyd â bod yn awyddus i ddarparu gofal ardderchog i'n cleifion. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac amlygu tystiolaeth o weithio mewn tîm.

Gweler y swydd-ddisgrifiad atodedig neu cysylltwch ag arweinydd y safle, Faith Whitecross, i gael rhagor o fanylion.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cynnal archwiliadau delweddu cyffredinol (e.e. radiograffeg ysgerbydol a delweddu'r abdomen a'r frest) a gwneud penderfyniadau annibynnol ar leoli'r claf a ffactorau ynghylch dod i gysylltiad ag ymbelydredd. Cynorthwyo a chefnogi radiograffwyr i redeg yr Adran Pelydr-X Gyffredinol o ddydd i ddydd er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon a chynhyrchiol. Darparu sgiliau cyfathrebu, cynllunio a threfnu effeithiol. Cyfathrebu mewn modd effeithiol ag uwch-staff yn y tîm i fodloni anghenion a gofynion y gwasanaeth.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 28/05/2024. 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Hyfforddiant ymarferydd cynorthwyol arbenigol ar lefel diploma neu gymhwyster cyfatebo

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad cyffredinol eang ym maes radiograffeg yn ystod y cyfnod hyfforddi
  • Gweithio gyda chyfuniad eang o gategorïau cleifion

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Faith Whitecross
Teitl y swydd
Site lead superintendent radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437 773383
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg