Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Prif Nyrs Gymunedol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle datblygu cyffrous wedi dod ar gael i Brif Nyrs Band 6 weithio yn ein gwasanaeth 24 awr.
Rydym yn chwilio am nyrs frwdfrydig, bendant ac ysbrydoledig sydd â diddordeb mawr mewn sicrhau y darperir gwasanaethau diogel o ansawdd uchel a chanlyniadau rhagorol, a hynny mewn ffordd sy'n sicrhau effeithlonrwydd ac yn diwallu anghenion y gwasanaeth a gofynion
rhanddeiliaid allweddol. Mae hyn yn cynnwys yr holl bartneriaid gofal acíwt, gofal cymunedol, gofal sylfaenol a'r awdurdodau lleol, cleifion a'r cyhoedd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn darparu arweinyddiaeth glinigol, broffesiynol gref i'r Tîm Cyntaf Cartref, yn ogystal â bod â chyfrifoldeb gweithredol am gyflawni canlyniadau perfformiad allweddol, gan gynnwys atal derbyniadau, gwella llif cleifion a lleihau hyd arosiadau yn yr ysbyty. Bydd diogelwch cleifion, profiad cleifion, llywodraethu clinigol a chydymffurfedd rheoliadol yn rhan annatod o'r rôl.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at y gwaith o reoli tîm o Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd Band 2 a 3 a Nyrsys Cofrestredig Band 5, a bydd yn gyfrifol am oruchwylio ac addysgu staff iau.
Bydd y rôl yn cynnwys dirprwyo ar gyfer Arweinydd y Tîm Band 7 yn ei absenoldeb.
Os ydych yn nyrs arloesol, brofiadol a llawn cymhelliant, sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn rhywun sydd â diddordeb mawr mewn hyrwyddo diwylliant o ddysgu a rhannu arfer da mewn perthynas â risg glinigol a diogelwch cleifion, ac os ydych wedi ymrwymo i brofiad y claf, datblygu staff a gwella gwasanaethau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gellir trafod oriau a phatrymau gwaith yn ystod y cyfweliad.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 06/06/2024
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
• Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
• 48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
• Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
https://fb.watch/hzQjE8HzTN/
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Baglor (neu brofiad cyfatebol)
- Diploma ôl-raddedig perthnasol (neu ddatblygiad/brofiad cyfatebol, Cymhwyster addysgu (neu brofiad cyfatebol) Cymhwyster rheoli cydnabyddedig Nyrs-bresgripsiynydd gymunedol a pharodrwydd i ymgymryd â gwaith astudio priodol ar lefel ôlraddedig. D.S. Mae Dyfarniad Ymarfer Arbenigol mewn Nyrsio Ardal yn ofynnol ar gyfer swydd Nyrsio Ardal)
- IQT Efydd
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu (neu brofiad cyfatebol)
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig
- Nyrs-bresgripsiynydd gymunedol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad priodol yn y gymuned/yn eich arbenigedd, ac yn gallu amlygu gwybodaeth gadarn
- Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2015)
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
- Profiad o redeg ward/maes/adran
- Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn-gofrestru
- Profiad o addysgu a mentora myfyrwyr nyrsio neu fyfyrwyr bydwreigiaeth cyn-gofrestru, a hynny mewn modd ffurfiol/anffurfiol
- Dealltwriaeth o'r agenda ehangach mewn perthynas â nyrsio a gofal iechyd
- Sgiliau TG
- Sgiliau rheoli goruchwyliol
- Y gallu i roi theori ar waith trwy sgiliau myfyriol
Meini prawf dymunol
- Profiad o gydgysylltu tîm
- Profiad o hwyluso dysgu yn ystod ymarfer, ac o ganlyniad iddo
- Profiad blaenorol o arwain a rheoli
- Ymwybyddiaeth o faterion cyfredol ym maes nyrsio ac yn eich arbenigedd
- Ymwybyddiaeth o reolaeth ariannol a rheoli adnoddau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Grehan
- Teitl y swydd
- Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07800 712162
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector