Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch-weithiwr Cymorth/Ymarferydd Cynorthwyol Therapi Galwedigaethol
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn bwriadu recriwtio Ymarferydd Cynorthwyol Therapi Galwedigaethol Band 4 i ymuno â'n Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn Sir Benfro.
Mae hwn yn gyfle rhagorol i unigolion sydd â phrofiad sylweddol o weithio gyda phobl ag anghenion cymhleth o ran gofal iechyd neu adsefydlu.
Ein nod yw i bobl ddychwelyd i'r gymuned a darparu ymyriadau therapi galwedigaethol priodol i osgoi aildderbyniadau i'r ysbyty.
Byddwch yn gweithio mewn Tîm Therapi Galwedigaethol cefnogol a phrysur, yn darparu gwasanaeth adsefydlu i oedolion ledled yr ysbyty yn ogystal â gwasanaeth allgymorth i hwyluso proses gefnogol o ryddhau cleifion yn gynt a gwneud y mwyaf o weithrediad a sgiliau oedolion. Mae'r rôl hon yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â chyd-weithwyr ac ar eich pen eich hun.
Bydd gennych brofiad o ddefnyddio technegau codi a chario medrus iawn i hwyluso symud cleifion a/neu adsefydlu. Dylech allu amlygu sgiliau rhesymu clinigol i'ch galluogi i asesu a thrin cleifion yn unol â phrotocolau a heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Bydd rhan o'r rôl hefyd yn cynnwys darparu cymorth ar gyfer gweithrediadau'r tîm, sy'n golygu delio mewn modd priodol ag ymholiadau a chyflawni tasgau gweinyddol sy'n berthnasol i'r rôl.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Casglu a choladu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau i lywio asesiadau, cynlluniau ac ymyriadau.
Ymgymryd â gwaith arsylwi, asesiadau ac ymyriadau manwl ar ran y Therapydd Galwedigaethol, a hynny yn annibynnol, gan amlygu gwybodaeth gadarn am effaith cyflwr ac amgylchiadau'r unigolyn ar ei weithrediad.
Cynllunio a chynnal rhaglenni triniaeth, ymyriadau a phrosesau rhyddhau ag unigolion gan ddilyn canllawiau, protocolau, a llwybrau y cytunwyd arnynt.
Adolygu ac addasu'r cynllun cytunedig, yn unol â chanllawiau'r gwasanaeth, gan roi gwybod i'r Therapydd Galwedigaethol cyfrifol.
Addasu ymyriadau a defnyddio blaengaredd mewn modd priodol ar sail yr hyn a gyflwynir gan y cleient, a hynny gan ddefnyddio gwybodaeth am Therapi Galwedigaethol ac effaith weithredol cyflyrau iechyd.
Glynu wrth gynlluniau rheoli risgiau wrth weithio gydag unigolion, a rhoi gwybod i'r Therapydd Galwedigaethol neu'r Cydgysylltydd Gofal am unrhyw newidiadau yn statws y risg.
Gweithio'n annibynnol ac ochr yn ochr â'r Therapydd Galwedigaethol ac aelodau eraill o'r tîm, i ddarparu ymyriadau therapiwtig wedi'u hasesu, a hynny mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys ysbytai, cartrefi, a chyfleusterau cymunedol a hamdden.
Darparu amrywiaeth o ymyriadau arbenigol sy'n gofyn am sgiliau penodol, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio cyfarpar neu offer therapiwtig.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweithio yn rhan o dîm dynodedig i ddarparu gwasanaeth Therapi Galwedigaethol sy'n effeithiol ac yn effeithlon i wella iechyd a llesiant pobl, yn unol â'r hyn a ddirprwyir gan Therapyddion Galwedigaethol.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 11/06/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o gymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r gweithle, NEU hyfforddiant, cymwysterau neu brofiadau cyfatebol eraill.
- Sgiliau T.G. ynghyd â gwybodaeth dda am raglenni Microsoft Office a phrofiad o'u defnyddio.
- Rhifedd a Llythrennedd hyd at lefel 2 o leiaf (TGAU gradd C neu'n uwch)
- Gwybodaeth dda am Therapi Galwedigaethol trwy brofiad a/neu hyfforddiant a gafwyd.
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig.
- Gwybodaeth am rolau grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
- Profiad Lefel 4 gyda pharodrwydd i gwblhau cymhwyster Lefel 4 perthnasol o fewn amserlen benodol ar ôl penodiad llwyddiannus
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o weithgareddau DPP sy'n gysylltiedig â rôl.
- Hyfforddiant Asesydd Dibynadwy mewn cyfarpar ac ymaddasiadau.
- Gwybodaeth am Lywodraethu Clinigol, yn cynnwys ymchwil ac archwilio
- Gwybodaeth am fesurau canlyniadau perthnasol i amlygu effeithiolrwydd ymyraethau.
- Gwybodaeth am flaenoriaethau ac arferion y Bwrdd Iechyd
- Gwybodaeth am amrywiaeth o ymyraethau adsefydlu ar draws pob therapi.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Ystod eang o brofiad o weithio mewn gwasanaeth therapi neu mewn maes perthnasol arall. Gall hyn gynnwys profiad gwirfoddol yn ogystal â phrofiad cyflogedig.
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bobl ag anghenion gwahanol.
- Gweithio'n rhan o dîm.
- Gweithio'n annibynnol.
- Rheoli eich amser eich hun a blaenoriaethu gweithgareddau.
- Cyfrannu at wella gwasanaethau.
- Hunanddatblygiad a dysgu.
- Defnyddio technegau wedi'u haddasu i wella annibyniaeth y claf.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau.
- Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol.
- Goruchwylio staff.
- Profiad o ddefnyddio dull Cyf-weld Ysgogiadol neu ymyraethau sy'n canolbwyntio ar atebion.
- Profiad o ymdopi'n annibynnol â sefyllfaoedd trallodus neu emosiynol mewn amgylcheddau gwaith heriol.
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu rhithwir, h.y. Skype, Teams, Zoom.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio i ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys teithio rhwng safleoedd, a hynny mewn modd amserol.
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth.
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lindsay Tarasconi
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Occupational Therapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 772353
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Lindsay Tarasconi- Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol -- 01437 772353
Hefyd cysylltwch â Susan Phillips os nad oes Lindsay Tarasconi ar gael- hefyd ar - 01437 772353.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector