Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Clerc Cofnodion Iechyd
Gradd 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 30.06. 2025. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Rydym yn recriwtio ar gyfer Clerc Cofnodion Iechyd a fydd yn cael ei leoli yn ein Hadran Clerc Cofnodion Iechyd yn Ysbyty Tywysog Philip, Bryngwyn Mawr, Llanelli, Mae 2 swydd yn llawn amser, yn gweithio 37.5 awr yr wythnos Dydd Llun i Dydd Gwener. Un swydd ran-amser 22.5 awr Dydd Mercher i Gwener.
Nid yw profiad blaenorol yn ofynnol ar gyfer y rôl gan y bydd hyfforddiant yn y swydd yn cael ei ddarparu. Bydd eich hyfforddiant yn dechrau'n bennaf yn ein Llyfrgell Ffeilio, ac yna bydd dyletswyddau eraill yn yr adran yn cael eu cyflwyno i chi.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau, gan gynnwys y canlynol:
• Ffeilio ac adalw cofnodion cleifion, a dod o hyd i gofnodion cleifion a'u darparu ar gyfer yr holl apwyntiadau cleifion allanol, derbyniadau wedi'u cynllunio a chleifion achosion dydd
• Paratoi cofnodion cleifion ar gyfer ymweliadau cleifion allanol/cleifion mewnol
• Gweithredu system gyfrifiadurol ar gyfer gweinyddu cleifion, gan gynnwys mewnbynnu ac adalw data
• Delio ag ymholiadau ffôn.
Mae'n ofynnol meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth, a gallu ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol yn ôl y gofyn. Mae medru gweithio mewn modd effeithiol yn rhan o dîm yn hanfodol.
I drafod y swydd yn fwy manwl neu i drefnu ymweliad anffurfiol, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod – byddem yn hapus i gwrdd â chi!
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau trefnu, rhyngbersonol a rhifyddol rhagorol. Mae agwedd hyblyg at waith ac oriau gweithio yn hanfodol, a dylech fod yn barod i ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol yn ôl yr angen. Mae'r gallu i weithio mewn modd effeithiol yn rhan o dîm yn hanfodol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
- Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
- 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
- Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y
swydd hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 30/05/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg o safon dda i gynnwys TGAU Mathemateg a Saesneg neu sgiliau llythrennedd a rhifedd amlwg
- Gwybodaeth am ddyletswyddau gweinyddol/swyddfa cyffredinol, gan gynnwys systemau ffeilio
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd
Profiad
Meini prawf dymunol
- Gallu cyfrifiadurol
Arall
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jayne Parry
- Teitl y swydd
- Health Records Supervisor
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783772
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Jayne Parry/Caroline Bowen
Cofnodion Iechyd
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Cyfarwyddwyr neu bob sector