Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweinyddwr Gwasanaethau/Cynorthwyydd Personol – Ffisiotherapi
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn chwilio am her newydd? Mae gwasanaeth Ffisiotherapi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am aelod newydd brwdfrydig a phrofiadol i'r tîm ar gyfer uwch-rôl weinyddol Ffisiotherapi.
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant i fod yn rhan o'n Tîm Acíwt a Chymunedol yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys darparu cymorth i'r Dirprwy Bennaeth Ffisiotherapi a rheolwyr gwasanaethau lleol, ynghyd â chymorth a chefnogaeth rhithwir i arweinwyr timau a rheolwyr gwasanaethau yng Ngheredigion a Sir Benfro. Bydd deiliad y swydd yn allweddoli i gefnogi proseau gweithredol yr adran.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd sgiliau TG rhagorol o ran Word, Excel, PowerPoint ac e-bost yn hanfodol, a bydd gwybodaeth am systemau rheoli cofnodion electronig (WPAS a WCP) yn fuddiol er mwyn cynorthwyo gyda dyletswyddau gweinyddol y gwasanaeth Ffisiotherapi a mewnbynnu data.
Bydd deiliad y swydd yn allweddol o ran cefnogi cyfarfodydd adrannol, rheoli prosesau Adnoddau Dynol, ffurflenni ariannol, a datblygu adroddiadau ar wasanaethau a sefydlu systemau sefydliadol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd am ddatblygu ei sgiliau mewn adran gyfeillgar, gefnogol a dynamig.
I gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau, gall y rôl gynnwys teithio i safleoedd ysbytai eraill a gweithio ynddynt.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 05/06/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- RSA III neu brofiad amlwg cyfatebol o deipio
- Profiad o amrediad llawn o ddyletswyddau sy'n ymwneud â gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
Meini prawf dymunol
- Wedi eich addysgu i lefel Safon Uwch neu lefel gyfatebol
- Hyfforddiant ysgrifenyddol
- Sgiliau llaw-fer
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio yn rôl Cynorthwyydd Personol i Uwch-reolwr
- Mae’r swydd yn gofyn am unigolyn sydd â lefel sylweddol o brofiad yn rôl cynorthwyydd personol i uwch-reolwr, yn ogystal â dealltwriaeth o’r GIG
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG neu mewn sefydliad cymhleth mawr
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Susan Griffith
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Physiotherapy
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07977410790
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector