Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo
Cyfeiriad
Ysbyty Gwynedd
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2PW
Rhif ffôn
01745 448400

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae’n darparu amrediad llawn o wasanaethau ysbyty llym, cychwynnol, cymunedol ac iechyd meddwl i boblogaeth o tua 700,000 ar draws chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Swydd Caer a Swydd Amwythig.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 19,000 aelod o staff ac mae ganddo gyllideb o oddeutu £1.2biliwn. Mae’n gyfrifol am redeg tri ysbyty cyffredinol dosbarth (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ger Y Rhyl, ac Ysbyty Maelor Wrecsam) yn ogystal â 22 ysbyty llym a chymuned arall, a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydlynu gwaith 96 meddygfa a 78 gwasanaethau’r GIG sy’n cael eu darparu gan ddeintyddion, optegwyr a 145 fferyllwyr Gogledd Cymru.

Os cewch drafferthion i ymgeisio ar lein, cysylltwch â Gyrfa Cymru ar rhadffôn 0800 100 900.

Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth, Meddygol a deintyddol, Proffesiynau perthynol i iechyd, Gwasanaethau gwyddor iechyd, Gwasanaethau cymorth, Gwasanaethau gweinyddol, Cyfarwyddwyr, Gwasanaethau Cymdeithasol Personol neu bob sector