Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Teitl cyflogwr

Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (enw gweithredol Llais) logo
Cyfeiriad
The Citizen Voice Body for Health and Social Care Wales
33-35 Cathedral Road
Pontcanna
Cardiff
CF11 9HB

Croeso i Llais

Mae Llais yn gorff cenedlaethol, annibynnol newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais i bobl Cymru yn y ffordd y maent yn derbyn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae pawb yn Llais yn credu y dylai pobl a chymunedau yng Nghymru allu byw bywydau hapus, iach lle maen nhw'n cael yr iechyd a'r gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnyn nhw mewn ffordd sy'n gweithio orau iddyn nhw. Credwn mai’r unig ffordd y gall hyn ddigwydd yw drwy godi pŵer a dylanwad eu lleisiau wrth lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar bobl.

Mae Llais yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn harneisio llais y rhai sy'n defnyddio neu a allai fod angen gwasanaethau i sicrhau newid cadarnhaol. Mae ein tîm o wirfoddolwyr, ochr yn ochr â'n gweithlu ymroddedig ac angerddol, yn gweithio i greu gwell tirwedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Llais yn cynnwys 7 rhanbarth, yn gwrando ar bobl yn eu cymunedau lleol, yn deall y pethau sydd bwysicaf iddynt am eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn defnyddio hyn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae ein cyrhaeddiad yn genedlaethol, ac rydym yn defnyddio eich llais i helpu i sicrhau newid lle bynnag y mae ei angen ar bobl sy'n byw ym mhob rhan o Gymru.

Croeso i Llais

Bywyd yng Nghymru

Cenedl fechan gyda chalon fawr yw Cymru. Mae traethau, coedwigoedd, mynyddoedd a llynnoedd yn rhai o’r tirweddau a’r golygfeydd ysblennydd i fanteisio arnynt yng Nghymru, gwlad sy’n adnabyddus am ei harddwch cenedlaethol.

Ble bynnag y byddwch yn dewis byw yng Nghymru, ni fyddwch yn brin o bethau i’w gwneud. Yn gyfoethog mewn hanes, mae Cymru hefyd yn cael ei hadnabod fel ‘gwlad y cestyll’ a gyda dros 600 ohonyn nhw, ni fydd yn rhaid i chi deithio’n bell i ymweld ag un. Mae Cymru hefyd yn gartref i bedwar safle Treftadaeth y Byd UNESCO a 90 o amgueddfeydd achrededig, tri pharc cenedlaethol a 150 o draethau.

Ble bynnag y byddwch yn dewis byw, mae Cymru yn falch o gael cymuned groesawgar a chyfeillgar, gyda diwylliant cyfoethog a threftadaeth amrywiol. O’i dinasoedd cosmopolitan prysur, i’r mannau prydferth arfordirol a’i thirweddau gwledig tawel, mae Cymru’n gartref i bawb.

Rhestr swyddi gyda Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (enw gweithredol Llais) yn Gwasanaethau gweinyddol