Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
English
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser
Cyfeirnod y swydd
001-MP107.25
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
The Breast Centre
Tref
Penarth
Cyflog
£62,117 - £99,216
Yn cau
23/07/2025 23:59

Teitl cyflogwr

NHS

Specialty Doctor in Breast

PWY YDYM NI:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o’r Byrddau Iechyd Integredig mwyaf yn y DU, sy’n cyflogi dros 16,000 o staff ac yn darparu dros 100 o wasanaethau arbenigol. Gan wasanaethu poblogaeth o oddeutu 500,000 o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydym yn canolbwyntio ar anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth leol, gan weithio gyda’n partneriaid hefyd i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol. Ar y cyd, rydym yn ymrwymedig i wella canlyniadau iechyd i bawb a darparu gofal a chefnogaeth ragorol.

Ein cenhadaeth yw “Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd”. Yn ddiweddar, rydym wedi adnewyddu ein strategaeth, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, sy’n nodi Gweledigaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer gwella iechyd a lles y poblogaethau rydym yn eu gwasanaethu erbyn 2035 trwy gyflawni ein hamcanion strategol; Rhoi Pobl yn Gyntaf, Darparu Ansawdd Rhagorol, Cyflawni yn y Mannau Cywir a Gweithredu ar gyfer y Dyfodol. Mae gennym gyfnod heriol o’n blaenau, ond rydym yn hyderus, drwy fynd i’r afael â’r heriau hyn gyda’n gilydd, y gallwn gefnogi pobl i fyw bywydau iachach a lleihau’r gwahaniaethau annheg yn nifer yr achosion o salwch a’r canlyniadau iechyd a welwn yn ein cymunedau heddiw. Ein nod yw darparu gofal a thriniaeth ragorol i bobl pan fydd eu hangen arnynt, lle mae eu hangen arnynt; gofal sy’n cymharu’n dda â’r gorau yn y byd, ond i wneud hynny mae angen i ni drawsnewid sut yr ydym yn darparu gwasanaethau dros y degawd nesaf a thu hwnt.

Rydym yn sefydliad sy’n cael ei yrru gan werthoedd, a dim ond os yw ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn y caiff ein nodau eu gwireddu. Wedi’u creu gan gydweithwyr, cleifion a’u teuluoedd, a gofalwyr, mae ein gwerthoedd fel a ganlyn:

·         Rydym yn garedig ac yn ofalgar

·         Rydym yn barchus

·         Mae gennym ymddiriedaeth ac uniondeb

·         Rydym yn cymryd cyfrifoldeb personol

EIN RHANBARTH:

Mae gan Gymru lawer i’w gynnig gyda milltiroedd o arfordir trawiadol, safleoedd treftadaeth y byd UNESCO a chefn gwlad hardd. Mae gan Gaerdydd, prifddinas ffyniannus Cymru, rywbeth at ddant pawb. Mae’n ddinas wych i fyw a gweithio ynddi sy’n cynnig llwyth o atyniadau chwaraeon, celfyddydau a diwylliannol. Wedi’i leoli i’r gorllewin o Gaerdydd, mae Bro Morgannwg yn cynnig cyfuniad o gefn gwlad hardd Cymru ac arfordir naturiol dramatig, yn ogystal â threfi prydferth yn cynnwys Penarth a’r Bont-faen. Mae’n bosibl y bydd y rhai hynny sy’n chwilio am fwy o ddiwylliant yn cael eu denu at yr Amgueddfa Genedlaethol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru neu Ganolfan y Mileniwm, cartref Opera Cenedlaethol Cymru. P’un ai’n fywyd dinesig neu’n fywyd gwledig, mae Caerdydd a’r Fro yn cynnig y gorau o’r ddau fyd.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau


 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Specialty Doctor in Breast Surgery

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o’r Byrddau Iechyd Integredig mwyaf yn y DU, yn cyflogi dros 17,000 o staff ac yn darparu dros 100 o wasanaethau arbenigol. Mae gennym amrywiaeth o yrfaoedd i’w cynnig ar draws 6 safle ysbyty. Gan wasanaethu dros 500,000 o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro, ein ffocws yw anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth leol a gwaith partneriaeth i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol. Ar y cyd, rydym yn ymrwymedig i wella canlyniadau iechyd i bawb a darparu gofal a chefnogaeth ragorol.

Ein cenhadaeth yw “Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd”, a’n gweledigaeth yw y dylai siawns pob unigolyn o fyw bywyd iach fod yn gyfartal. Ein strategaeth trawsnewid a gwella 10 mlynedd, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, yw ein cyfle i gydweithio â’r cyhoedd a’n gweithlu i sicrhau bod ein bwrdd iechyd yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareApprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderhyderus o ran anableddAccredited Living Wage EmployerDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldArmed Forces CovenantDFN Project Search LogoStonewall Top 100 Employers in 2023Stonewall Top 100 Employers in 2023Core principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Eleri DAvies
Teitl y swydd
Consultant Breast Surgeon
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02921 725708
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg