Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR355-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- NWAS - Ysbyty Abergele
- Tref
- Abergele
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/07/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch Nyrs Staff
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Uwch Staff Nyrsio Band 6 – Ward Cudyll, Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru
Ydych chi'n Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig (RMN) neu'n Nyrs Anableddau Dysgu Gofrestredig (RNLD) llawn tosturi a brwdfrydedd sy'n angerddol am gefnogi pobl ifanc rhwng 12 a 17 oed? P’un a yw eich profiad yn dod o weithio i CAMHS neu leoliad arall sy'n gweithio gyda phobl ifanc, rydym yn croesawu eich sgiliau trosglwyddadwy a byddwn yn cefnogi eich datblygiad i ofal arbenigol ar gyfer pobl ifanc.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
• Gweithio fel Rheolwr Achosion ar gyfer grŵp bach o bobl ifanc, gan gydlynu gofal unigol o ansawdd uchel.
• Gweithio'n agos o fewn Tîm Amlddisgyblaethol (MDT) cefnogol.
• Cyfrannu at amgylchedd ward diogel, therapiwtig a chefnogol o ran datblygiad.
• Cefnogi’r gwaith cynllunio ar gyfer cyfnod pontio a rhyddhau effeithiol.
• Darparu arweinyddiaeth, goruchwyliaeth a mentora i gydweithwyr iau a myfyrwyr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Pwy rydym yn dymuno ei recriwtio
• Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig (RMN) neu Nyrs Anableddau Dysgu Gofrestredig (RNLD).
• Unigolyn sy’n llawn brwdfrydedd am gefnogi pobl ifanc.
• Unigolyn sydd â sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm cryf.
• Unigolyn sy’n hyblyg, yn dosturiol ac sy’n gallu addasu.
• Unigolyn sydd â phrofiad gyda CAMHS neu feysydd perthnasol eraill yn ymwneud ag iechyd meddwl neu bobl ifanc (nid oes angen profiad blaenorol yn gweithio â chleifion mewnol CAMHS).
Manylion ychwanegol
• Swydd gyfwerth ag amser llawn.
• Mae Ward Cudyll yn gweithredu 24/7, felly mae hyblygrwydd ar draws patrymau sifft, gan gynnwys nosweithiau, yn hanfodol.
• Byddwch yn ymuno gyda thîm croesawgar a phrofiadol sydd wedi ymrwymo at lesiant, datblygiad a gofal o ansawdd uchel.
Ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth?
Os ydych yn angerddol am helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial a’ch bod yn awyddus i ddatblygu o fewn gwasanaeth Haen 4 CAMHS cefnogol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Am fanylion pellach:
Cysylltwch â: Keri Davidson – Rheolwr Ward
E-bost: [email protected]
Rhif ffôn: 03000 850056
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg A/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Rhaid bod yn nyrs iechyd meddwl gofrestredig lefel un, nyrs bediatrig neu'n nyrs gofrestredig anableddau dysgu
- Cymhwyster ôl-gofrestru mewn Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster dysgu ac asesu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd meddwl cleifion mewnol.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn ymwneud â Nyrsio Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o weithio mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Glasoed (ee gwasanaethau cymunedol)
Tueddfrydau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i greu perthnasau therapiwtig effeithiol gyda phobl ifanc (cleifion)
- Dealltwriaeth glir o brosesau nyrsio a Mesurau Iechyd Meddwl a sut maen nhw'n gysylltiedig â phlant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl
- Gallu cyfathrebu â chydweithwyr y tîm amlddisgyblaethol a staff proffesiynol eraill ar lafar ac ysgrifenedig
- Y gallu i fod yn gadarn a bod yn arweinydd mewn timau
- Gwybodaeth gadarn ynghylch datblygiad plant a'r ffactorau a all gyfrannu at anawsterau iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl
- Profiad o werthuso ac archwilio gwasanaeth a gwybodaeth dda am gydrannau llywodraeth glinigol
- Gwybodaeth gadarn o faterion sy'n effeithio ar nyrsio pobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl
- Y gallu i asesu problemau iechyd meddwl. Bydd angen gallu defnyddio gwybodaeth a gasglwyd o amrywiol ffynonellau i ddarparu fformwleiddiad iechyd meddwl ar gyfer hyn.
- Y gallu i asesu a rheoli risg, yn enwedig y gallu i nodi ffactorau risg sy'n ymwneud â phroblemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc a gweithredu strategaethau rheoli risg priodol.
- Sgiliau gwaith grŵp
- Y gallu i ddarparu ac ymgysylltu'n effeithiol mewn goruchwyliaeth glinigol
- Y gallu i weithio ar y cyd gydag asiantaethau a disgyblaethau eraill
- Y gallu i gymryd rhan mewn hyfforddiant technegau dal gwrth-anghymhellol, gangynnwys hyfforddiant ymyriad corfforol rhwystrol
- Y gallu i barhau'n ddigynnwrf wrth reoli sefyllfaoedd heriol personol
- Gwybodaeth am waith tîm a dynameg tîm a'r gallu i weithio mewn timau ac mewn sefyllfaoedd amlddisgyblaethol
- Gallu myfyrio'n dda a dealltwriaeth o'i bwysigrwydd mewn cyddestun gwaith rhyngbersonol
- Y gallu i drefnu a chynllunio gweithgareddau i'r tîm nyrsio
- Y gallu i weithio'n hyblyg ac i addasu ymagwedd glinigol i anghenion y cleientiaid, gweithio mewn partneriaeth â chleientiaid a rhieni/gofalwyr
- Lefel dda sy'n datblygu o hunanymwybyddiaeth a sut mae profiadau eich hunan yn gallu effeithio ar eich agweddau a rhyngweithiad. Hunan-ymwybyddiaeth sy'n cynnwys rhinweddau a gwerthoedd sydd o fudd i'r swyddogaeth e.e. gofal, cydymdeimlad, gwroldeb ac ymroddiad.
- Bod â'r dymuniad i ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol
- Gallu ymarfer ffiniau proffesiynol priodol
- Gallu adnabod ffiniau sgiliau a galluoedd personol
- Meddu ar strategaethau priodol i ymdopi â straen
- Cefnogi cydweithwyr eraill
- Gallu gweithio gyda disgyblaethau eraill
- Bod â'r dymuniad i weithio gyda'r grŵp cleientiaid hwn mewn tîm
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gallu teithio o fewn ardal ddaearyddol.
- Gallu gweithio oriau hyblyg.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Keri Davidson
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850056
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
