Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
CAMHS
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS869-1126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru
Tref
Abergele
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/11/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gweithiwr Cymorth Nyrsio Cymru

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn falch o allu cynnig y cyfle i unigolyn profiadol a llawn cymhelliant sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol i wneud cais am rôl gweithiwr cefnogi Gofal Iechyd Band 3 ar Ward Kestrel o fewn Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru yn Abergele.

Gan y byddwch yn gweithio mewn lleoliad CAMHS i gleifion mewnol gyda phobl ifanc rhwng 11 a 17 oed, bydd arnoch angen ymagwedd hyblyg ac yn gallu addasu eich sgiliau a’ch gallu fel ei fod yn addas ar gyfer ystod o anghenion a phroblemau.

Mae'n rhaid bod gan ymgeiswyr brofiad amlwg o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol sy'n berthnasol i CAMHS Haen 4 ar gyfer cleifion mewnol, lle maent wedi rhoi gofal a chymorth uniongyrchol i bobl ifanc sydd ag anghenion iechyd meddwl cymhleth. Mae'r profiad hwn yn hanfodol er mwyn caniatáu cynnig gofal diogel, effeithiol a thrugarog o fewn y lleoliad arbenigol hwn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rhoi gofal o ddydd i ddydd i gleifion o dan oruchwyliaeth nyrs gofrestredig sy'n bodloni gofynion 'arfer gorau', yn dilyn canllawiau sy'n bodoli eisoes, cyflawni'r safonau a ragnodir a chyfrannu at gysur a lles cleientiaid yn gyffredinol. Cydweithio a chydweithredu ag eraill i ddiwallu anghenion cleifion a'u teuluoedd.

Er y byddwch yn gweithredu bob amser yn unol â chyfarwyddyd y nyrs â chyfrifoldeb, byddwch yn gymwys i weithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol, weithiau ar eich pen eich hun, yn unol â fframwaith y cytunwyd arno gan Reolwr y Gwasanaeth/Rheolwr y Ward. 

Yn ogystal â chyfrannu at drefn o ddydd i ddydd a chefnogaeth i bobl ifanc ar y ward, byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda phobl ifanc y tu allan i’r uned, gan gefnogi eu hailintegreiddiad i’r gymuned.

Mae ward Kestrel yn darparu gwasanaeth 24/7 a bydd gofyn i chi fod yn hyblyg i fodloni’r ystod o batrymau sift gofynnol, gan gynnwys sifftiau nos

Bydd gofyn i chi allu gweithio’n annibynnol, o dan gyfeiriad y tîm nyrsio. Bydd dyletswyddau’n cynnwys hebrwng cleifion ar deithiau/apwyntiadau mynd gartref ayb.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Sylwch os ydych chi eisoes wedi ymgeisio am y swydd hon, nid oes rhaid i chi gyflwyno cais arall yr adeg hon. Bydd y hysbyseb hon yn cau unwaith y cewch ddigon o geisiadau.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd manwl a'r Fanyleb Person sydd i'w gweld yn yr adrannau Dogfennau Ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w gweld yn TRAC.

Manyleb y person

Cymwysterau & Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd NEU brofiad cyfatebol a thystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith sy'n dangos gwybodaeth ddamcaniaethol, a'r gallu i ymgymryd â dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rôl a enillir trwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith/cyrsiau byr.
  • Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan (HEIW)
  • Gwybodaeth am Bolisïau a Gweithdrefnau perthnasol o fewn lleoliad Gofal Iechyd, er enghraifft Egwyddorion Diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel, a chyfrinachedd, er enghraifft Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
  • Yn gallu cwblhau hyfforddiant ymyrraeth gorfforol ardystiedig/achrededig, er enghraifft Atal a Rheoli Trais ac Ymosodedd (PMVA)
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant ymyrraeth gorfforol ardystiedig/achrededig, er enghraifft Atal a Rheoli Trais ac Ymosodedd (PMVA)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio o fewn amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol perthnasol, gan ddarparu gofal uniongyrchol i gleifion.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda phlant neu bobl ifanc ag anawsterau datblygiadol sylweddol neu broblemau iechyd meddwl
  • Profiad o weithio o fewn y GIG.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu da - Llafar, di-eiriol ac ysgrifenedig, gyda'r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir ac yn sensitif.
  • Gallu gweithio gyda goruchwyliaeth leiaf i safon uchel.
  • Gallu aros yn dawel mewn sefyllfaoedd straen
  • Gallu dangos agwedd ofalgar a thosturiol.
  • Sgiliau trefnu, gyda'r gallu i gynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith eich hun ac eraill yn effeithlon
  • Gallu defnyddio technoleg i gyflawni'r rôl, er enghraifft Microsoft Office, llwyfannau rhithwir fel Teams.
  • Yn gorfforol abl i gyflawni dyletswyddau'r rôl, gan gynnwys codi, cynorthwyo gyda symudedd, rhoi ataliaeth ar waith (os oes angen), a chyflawni tasgau llaw eraill.
Meini prawf dymunol
  • Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Cliriad gwell gan y DBS, gan gynnwys gwiriad Rhestr Waharddedig Oedolion a Phlant.
  • Gallu gweithio ystod o batrymau shifft

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Keri Davidson
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 855340
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg