Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth Cyllid
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Gweithio gartref neu o bell
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC724-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cymunedol Abergele
- Tref
- Abergele
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Swyddog Gwasanaethau Cyllid
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigoliyn brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'r tîm cyllid Gofal Iechyd Parhaus (GIP) yn barhaol. Bydd yr unigolyn yn chwaraewr tîm cryf yn ogystal â meddu ar sgiliau TG a rhyngbersonol da.
Mae swydd Swyddog Gwasanaethau Ariannol o fewn y Tîm Gwasanaethau Ariannol, wedi ei lleoli yn Ysbyty Abergele, Abergele gyda chyfleoedd posibl ar gyfer gweithio hybrid. Bydd disgwyl i bresennol yn yr swyddfa o leiaf un diwrnod yr wythnos.
Croeso i chi gysylltu gyda'r Rheolwr am sgwrs bellach ynglŷn ar swydd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd Swyddog Gwasanaethau Ariannol yn cefnogi tîm Capital a Cherbydau Rhentu i gynnal a datblygu cofnodion electronig, ac i brosesu trafodion i'r Llyfr Cyffredinol a systemau ariannol cysylltiedig.
Bydd Swyddog Gwasanaethau Ariannol yn gyfrifol am baratoi a mewnbynnu data i systemau cyfrifiadurol y Bwrdd Iechyd, dadansoddi data, sicrhau bod cyfrifon rheoli yn gywir ac yn darparu cymorth i'r tîm.
Mae'r gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- TGAU Mathemateg graddfa C neu uwch neu gymhwyster cywerth.
- TGAU Saesneg graddfa C neu uwch neu gymhwyster cywerth.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster AAT
- Gradd Prifysgol lefel 2:2 neu uwch
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o ddefnyddio taenlenni a cronfeydd.
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o ddamcaniaethau cyfrifo a phrosesau, gan gynnwys cadw llyfrau, croniadau a rhagdaliadau.
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Gonestrwydd a hunanysgogol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Gallu cydweithio gyda staff ar bob lefel
- Aelod da o dîm
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig ardderchog a sgiliau rhifedd.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddefnyddio taenlenni, cronfeydd.
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddatrys cyfrifiadau a chysoni ariannol.
Gofynion Perthnasol Eraill
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siariad cymraeg yn ddymunol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Denise Roberts
- Teitl y swydd
- Head of Capital, Compliance and BI
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector