Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrsio
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR578-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Clinig Iechyd Abergele
- Tref
- Abergele
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Rheolwr Tîm - Ymwelwyr Iechyd a Nyrsio Ysgol Conwy
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i arwain a rheoli Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd a Nyrsio Ysgol BCUHB Conwy, fel rhan o swydd rhannu swydd gyda rheolwr presennol.
Mae'r swydd wedi'i hysbysebu fel 15 awr yr wythnos. Byddai'r person sy'n dal y swydd yn seiliedig yn Clinic Iechyd Abergele.
Mae ceisiadau'n cael eu gwneud gan weithwyr proffesiynol sydd yn cwrdd â'r gofynion hanfodol ar gyfer y swydd, yn enwedig gan unigolion sydd â chymwysterau a phrofiad Iechyd ymweliad SCPHN.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth, rheolaeth ac arbenigedd clinigol proffesiynol, gweladwy iawn i'r tîm Ymwelwyr Iechyd a Nyrsio Ysgol, gan sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir o ansawdd uchel.
Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth eang ym maes Ymwelwyr Iechyd a/neu Nyrsio Ysgol a Dangosyddion Perfformiad Allweddol sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaeth, yn ogystal â dealltwriaeth ehangach o anghenion Iechyd Cyhoeddus y boblogaeth ar draws yr ardaloedd y mae'r timau'n eu gwasanaethu.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch un gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "gwneud cais nawr" i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs gofrestredig NMC gyda chymwysterau priodol i' maes gwasanaeth a reolir
- Datblygiad proffesiynol parhaus a datblygiad fel rheolwr
- Gradd berthnasol
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig a pherthnasol neu rhaid iddo gael ei gyflawni 1-2 flynedd o fod mewn swydd
Meini prawf dymunol
- Profiad o fentora
- Asesu a / neu addysgu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o reoli ar fand 6 neu uwch
- Profiad clinigol perthnasol
- Hyfforddiant Amddiffyn / Diogelu Plant ar lefel 3
- Datblygu'r gwasanaeth a / neu bolisi
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth a sgiliau rheoli arian a gallu
- Tystiolaeth o reoli newid
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau arwain
- Gallu blaenoriaethu gwaith i amserienni tynn
- Cyfathrebu effeithiol ar lefel tim ag asiantaethau eraill a'r cyhoedd
- Gallu cyfathrebu gan ddefnyddio amrywiol ffurfiau
- Tystiolaeth o wneud newidiadau cadarnhaol sy'n gwella canlyniadau
Meini prawf dymunol
- Sgiliau ymchwll ac archwiliad
- Sgiliau TG - ECDL neu gyfwerth
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol
- Gwybodaeth gyfredol am Ddeddf y Plan a Gweithdrefnau Diogelu
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu dangos arweinyddiaeth gadarn, ddigyffro a phenderfynol bob amser gan gynnwys mewn argyfwng
- Gallu i ddatrys problemau a gallu addasu i sefyllfaoedd sy'n newid
- Sgiliau cyfrifiadurol
- Agos atoch, gonest a chyeillgar ar lefel broffesiynol
- Yn gallu teithio
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sharon Gammon
- Teitl y swydd
- Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07825244704
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector