Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- fferyllfa
- Gradd
- NHS AfC: Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST125-0926
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Abergele
- Tref
- Abergele
- Cyflog
- £39,959 - £48,117 per annum, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 12/10/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch-dechnegydd Fferylliaeth
NHS AfC: Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae gan y Tîm Fferylliaeth Canolog Gofal Cartref a Chaffael gyfle i recriwtio Technegydd/wyr Fferylliaeth brwdfrydig a rhagweithiol i arwain ein gwasanaethau sydd ar fin ehangu, a rhoi cymorth i dimau clinigol.
Bydd gan yr ymgeisydd/wyr llwyddiannus brofiad o weithio o fewn tîm amlddisgyblaethol a chymryd rhan mewn gwelliant gwasanaeth. Bydd angen cefnogi datblygu a gweithredu ffyrdd arloesol o weithio, a fydd yn arwain at welliannau mewn gofal a phrofiad cleifion, ac yn darparu effeithlonrwydd i’r sefydliad a staff.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal o’r ansawdd gorau, ac mae angen ymgeiswyr ymroddedig, profiadol a medrus arnom i helpu i gyflawni hyn.
Lleolir y rôl yn Ysbyty Abergele (agored i drafodaeth), a bydd angen i’r unigolyn ddarparu cymorth ledled y Bwrdd Iechyd. Un o'r blaenoriaethau allweddol fydd i gefnogi gweledigaeth fferylliaeth ar gyfer y dyfodol ac i archwylio ffyrdd o weithredu effeithlonrwydd, datblygu staff a systemau i alluogi hyn tra yn sicrhau bod ein gweledigaeth a'n nodau yn cyd-fynd â strategaeth "Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach".
Prif ddyletswyddau'r swydd
Felly, os ydych chi'n chwilio am her newydd i ehangu eich portffolio, ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb a chael cyfle i weithio mewn sawl maes o fferylliaeth , gallai hon fod yn swydd ddelfrydol i chi.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae'r un croeso i siaradwyr y Gymraeg a/neu'r Saesneg ymgeisio am y swydd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fynd ati'n annibynnol i gyflawni'r dyletswyddau a ddyrennir o fewn y cyfyngiadau a osodir gan y Fferyllwyr Arweiniol- Gofal Cartref a Challael, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r adran a rhai'r Bwrdd Iechyd.
· Bod yn gyfrifol am oruchwylio, datblygu a rheoli staff rheoli meddyginiaethau dynodedig y fferyllfeydd ym maes caffael meddyginiaethau a gofal yn y cartref
Arwain a chynorthwyo prosiectau a meysydd gwaith penodol, datblygu strategaethau ar gyfer gwella gwasanaethau sy'n adlewyrchu amcanion proffesiynol a chorfforaethol.
Rhoi cefnogaeth i ddarparu gwasanaethau ym maes gofal yn y cartref a chaffael, gan gynnwys helpu gyda rheoli systemau TG fferyllfeydd a cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth.
Dirprwyo ar ran y Rheolwr Llinell pan fo'n briodol ar fforymau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i hwyluso prosesau caffael meddyginiaethau cost-effeithiol.
Cynnal gwiriad clinigol o sgript gofal yn y cartref o fewn y cylch gwaith (yn dilyn achrediad) gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion proffesiynol, cyfreithiol, comisiynu a rheoleiddiol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg A/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gymhwyso sylweddol ym maes gwasanaethau fferylliaeth.
- Profiad o reoli tîm/timau fferylliaeth
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn ystod eang o wasanaethau fferylliaeth.
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol hyderus ac awdurdodol.
- Sgiliau arwain.
- Tystiolaeth o reoli gwrthdaro.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gyfweld ag ymgeiswyr
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth gynhwysfawr am wasanaethau fferylliaeth ar gyfer maes arbenigol hyd at lefel gradd neu lefel gyfatebol.
- Gwybodaeth am reoli arian
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am ddatblygiadau mewn gwasanaethau iechyd a fydd yn effeithio ar eich maes cyfrifoldeb
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Chwaraewr tîm.
- Yn gallu defnyddio ei fenter ei hun.
- Canolbwyntio ar y Claf/Gwasanaeth.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alaw Jones
- Teitl y swydd
- Lead Pharmacist Homecare and Procurement
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 855672
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cyswllt ychwanegol:
Christopher Pritchard
Fferyllydd Arweiniol Gofal Cartref a Chaffael
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







.png)
