Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Anesthetig
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP109-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Adran Llawdriniaeth
Gradd 5
Trosolwg o'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal i gleifion, gan ddefnyddio arferion gorau yn seiliedig ar dystiolaeth. Defnyddir arbenigedd clinigol yn ystod pob cam o'r cyfnod yn ystod llawdriniaethau.
Darperir cymorth galluog i ofalu am y claf yn ystod gofal anesthetig, llawdriniaeth ac yn dilyn llawdriniaeth. Defnyddir y sgiliau hyn hefyd mewn meysydd eraill e.e. Resus DAB, Pelydr-x, Obstetreg, Offthalmoleg ac unrhyw ward a fydd angen ymyriad anaesthetig, gan ddarparu gwasanaeth brys 24 awr llawn a bydd deilydd y swydd yn cario blîp ar gyfer hyn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfathrebu a datblygu perthynas waith broffesiynol dda gyda chlinigwyr a staff o bob graddfa o fewn yr adran a mannau eraill i sicrhau'r gofal gorau i gleifion. Cydnabod yr angen ac ymgymryd â chyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaus eich hunan (CPD).
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Ymarferydd Cofrestredig HCPC Adran Llawdriniaethau
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster dysgu/ mentora/asesu
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd theatr.
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn ystod eang o arbenigeddau clinigol o fewn yr adran lawdriniaethau
Tueddfrydau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i arddangos gofal cleifion o ansawdd uchel yn gyson
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol
- Y gallu i ymgymryd â dyletswyddau a ddirprwywyd o fewn lleoliad amlddisgyblaethol tra'n cydnabod cyfyngiadau deheurwydd eich hunan
- Ysgogol
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Rhoi cleifion yn gyntaf
- Parchu eraill
- Gweithredu gan ddirnad anawsterau pobl eraill
Arall
Meini prawf hanfodol
- Rhaid cymryd rhan ar rota ar alwad a sifftiau nos
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sonia Owen
- Teitl y swydd
- Team Leader Operating department Practitioner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 841834
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector