Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Glanhau
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (4 noson yr wythnos ar y rota, yn gweithio 23:00-07:00, yn cynnwys rhai Gwyliau Banc a penwythnosau)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-EA128-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 19/07/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd y Gwasanaethau Domestig - Gweithredydd Glanhau Trylwyr
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Gwahoddir ceisiadau am swydd Cynorthwyydd y Gwasanaethau Domestig – Gweithredydd Glanhau Trylwyr i weithio 30 awr yr wythnos (4 noson yr wythnos ar y rota, yn gweithio 23:00-07:00, yn cynnwys rhai Gwyliau Banc a penwythnosau).
Dyletswyddau glanhau cyffredinol gan sicrhau bod pob ardal o fewn yr amgylcheddau gofal iechyd wedi eu glanhau yn unol â'r safon a fanylir yn y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Glendid yng Nghymru, ac yn unol â'r Fframwaith Cyfrifoldeb Glanhau (CRF). Bydd hyn yn cynnwys pob ward, ardal glinigol, adran, swyddfa a mannau cyhoeddus. Glanhau a dadheintio deunydd yr adeilad a'r offer yn drylwyr, yn ôl yr angen.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Gweithredydd Glanhau Trylwyr yn gwneud tasgau glanhau, glanhau a dadheintio estynedig mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys wardiau, clinigau, ystafelloedd triniaeth, swyddfeydd, ystafelloedd aros, ardaloedd cyhoeddus ac ati. Bydd eu hardal waith yn cynnwys holl leoliadau BIPBC o fewn yr ardal yn ogystal ag adeiladau nad ydynt yn rhai BIPBC fel yr angen. Dylir gwneud yr holl dasgau yn unol â SOPs adrannol, Fframwaith Cyfrifoldeb Glanhau a Rheoliadau COSHH a Fframwaith Cyfrifoldeb Glanhau ar amlder a osodir yn Safonau ar gyfer Glanhau yng Nghymru neu fel y gofynnir.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol o safon dda
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol
- Trwydded yrru dilys llawn
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaethau Glanhau
- Gwybodaeth am COSHH
- Gwybodaeth o'r System Cod Lliwiau Cenedlaethol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o lanhau (mewn sefyllfa nad yw'n un domestig)
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn swydd debyg
- Profiad o weithio fel rhan o dîm
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn unol â rhai BIPBC
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu trefnu a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun
- Gallu dilyn cyfarwyddiadau
- Gallu dilyn trefn wedi ei gosod ac addasu blaenoriaethau gwaith ei hun
- Yn gallu gweithio fel aelod o dîm
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
- Dangos gofal, tosturi, gallu a sgiliau cyfathrebu da
Arall
Meini prawf dymunol
- Gallu gweithio oriau hyblyg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Julie Chmara
- Teitl y swydd
- Hotel Services Assistant Manager - Domestics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 851191
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector







.png)
