Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- ENT
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Cyfnod Penodol: 29 mis (hyd at Rhagfyr 2027 i cwrdd gofynion y gwasanaeth.)
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Oriau amrywiol ar gael)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS377-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ward Dulas - Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £23,970 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad tan Rhagfyr 2027 i cwrdd gofynion y gwasanaeth.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'n tîm ar Ward Dulas. Bydd yr unigolyn yn gweithio gyda aelodau eraill o staff, ar batrwm shifft dydd a nos. Bydd yr unigolyn yn darparu gofal nyrsio ar gyfer amrywiaeth o breswylwyr ar ward brysur. Bydd cyfleoedd hyfforddi parhaus ar gael i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Trwy ddod yn rhan o'r tîm ar Dulas, byddai eich prif ddyletswyddau yn cynnwys cynorthwyo i ddarparu gofal cleifion o safon uchel trwy fod yn ofalgar ac yn gydymdeimladol. Byddwch yn cynorthwyo'r claf gyda'u hanghenion personol a hylendid, yn eu hannog gyda'u derbyniad maethol a byddwch yn dogfennu gwybodaeth yn fanwl.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon; mae siaradwyr Cymraeg ac/neu Saesneg yn rhannol croeso i wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig.
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Cymwysterau / Profiad
Meini prawf hanfodol
- Wedi cyflawni graddau/ profiad
Meini prawf dymunol
- Wedi cyflawni graddau/ profiad
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Amy Smith
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector