Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Gweithio hyblyg Dydd Llun - Gwener rhwng oriau craidd 8yb-6yh)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC299-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Dadansoddwr Ariannol
Gradd 4
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig i weithio fel aelod o dîm Cyllid Cyfrifon Rheoli (fel rhan o'r IHC Gorllewin) i Ysbyty Gwynedd ym Mangor fel Dadansoddwr Ariannol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn agos gyda'r tim rhoeli a thim clinigol Gofal Eilaidd, i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cyflawni gwerth am arian.
Bydd deilydd llwyddiannus y swydd wedi cymhwyso gyda AAT neu gyda phrofiad / cymhwyster cyfatebol.
Mae’r rôl yn gofyn am unigolyn brwdfrydig, ymroddedig a llawn cymhelliant gyda sgiliau dadansoddi, cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf.
Dyma cyfle gwych i unigolyn sydd yn awyddus i ddatblygu ei gyrfa yn y maes Cyllid, profiad a dealltwriaeth o reoli adnoddau GIG Cymru.
Os ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau a'r brwdfrydedd i ymuno gyda'r tim, cysylltwch gyda ni.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol. Mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio fel rhan o'r Tîm Cyfrifo Rheolaethol i
baratoi, prosesu a monitro'r holl incwm a gwariant o ran Cyllideb Ddirprwyedig benodol o fewn dyraniad cyffredinol y Bwrdd Iechyd.
Cefnogi’r gwaith o fonitro'r holl gyllidebau, gan sicrhau y cydymffurfir â rheolau sefydlog, cyfarwyddiadau ariannol sefydlog ac unrhyw safonau, polisïau a gweithdrefnau cyfrifo eraill y Bwrdd Iechyd neu Statudol.
Trafod ac ymateb i /delio ag ymholiadau gan staff, cwsmeriaid neu gyflenwyr am unrhyw faterion yn ymwneud ag unrhyw agwedd o wariant neu incwm y Bwrdd Iechyd / Cyllideb Ddirprwyedig, yn cynnwys meysydd sy'n gallu bod yn gymhleth a sensitif. I ddatrys bydd angen dadansoddi data ariannol cymhleth yn aml a dehongli a chyflwyno'r canlyniadau ac argymhellion ar gyfer staff cyllid a heb fod yn gyllid.
Helpu i baratoi cyllidebau gwasanaeth manwl (ar gyfer cyflogau, heb fod yn
gyflogau ac incwm) yn cynnwys prosesu, cysoni a rheoli'r holl gyllidebau ar
System Ariannol Oracle a'r cyfriflyfr cyffredinol
Paratoi a phrosesu dyddlyfrau ar gyfer eu mewnbynnu ar y cyfriflyfr cyffredinol yn unol â rheoliadau systemau ac archwilio ac amserlenni misol, gan sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu gwneud yn erbyn nodau cyfrifo cywir a pherthnasol i gefnogi adrodd rheoli perfformiad ariannol blynyddol a misol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych chi'n mwynhau her, mae gennych frwdfrydedd i helpu eraill neu dim ond sydd eisiau dechrau newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru, yr holl gynhwysion cywir. Y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, sy'n darparu ystod lawn o wasanaethau ysbyty cynradd, cymunedol, iechyd meddwl, acíwt a dewisol i boblogaeth o tua 700,000, ledled gogledd Cymru . Ymunwch â'n tîm a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi, yn unol â'n Gwerthoedd Sefydliadol a fframwaith cymhwysedd 'Balch i Arwain'
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweinyddiaeth ymgysylltu ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio drwy'r cyfrif e-bost sydd wedi ei gofrestru ar y ffurflen gais.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweithio fel rhan o'r Tîm Cyfrifo Rheolaethol i
baratoi, prosesu a monitro'r holl incwm a gwariant o ran Cyllideb Ddirprwyedig benodol o fewn dyraniad cyffredinol y Bwrdd Iechyd.
Cefnogi’r gwaith o fonitro'r holl gyllidebau, gan sicrhau y cydymffurfir â rheolau sefydlog, cyfarwyddiadau ariannol sefydlog ac unrhyw safonau, polisïau a gweithdrefnau cyfrifo eraill y Bwrdd Iechyd neu Statudol.
Trafod ac ymateb i /delio ag ymholiadau gan staff, cwsmeriaid neu gyflenwyr am unrhyw faterion yn ymwneud ag unrhyw agwedd o wariant neu incwm y Bwrdd Iechyd / Cyllideb Ddirprwyedig, yn cynnwys meysydd sy'n gallu bod yn gymhleth a sensitif. I ddatrys bydd angen dadansoddi data ariannol cymhleth yn aml a dehongli a chyflwyno'r canlyniadau ac argymhellion ar gyfer staff cyllid a heb fod yn gyllid.
Helpu i baratoi cyllidebau gwasanaeth manwl (ar gyfer cyflogau, heb fod yn
gyflogau ac incwm) yn cynnwys prosesu, cysoni a rheoli'r holl gyllidebau ar
System Ariannol Oracle a'r cyfriflyfr cyffredinol
Paratoi a phrosesu dyddlyfrau ar gyfer eu mewnbynnu ar y cyfriflyfr cyffredinol yn unol â rheoliadau systemau ac archwilio ac amserlenni misol, gan sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu gwneud yn erbyn nodau cyfrifo cywir a pherthnasol i gefnogi adrodd rheoli perfformiad ariannol blynyddol a misol.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel Technegydd AAT neu brofiad cyfatebol amlwg o allu gweithio ar y lefel dechnegol a phroffesiynol hon.
- Evidence of continued professional development, particularly in the areas of budget and financial management, control and reporting.
Meini prawf dymunol
- ECDL or equivalent IT qualification
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio yn amgylchedd cyllid. Profiad o systemau a rheoliadau rheoli ariannol cyfrifiadurol
- Profiad o weithio fel rhan o’r tim
- Profiad o systemau a rheolaethau rheoli ariannol cyfrifiadurol.
- Profiad o weithio gyda phobl y tu allan i faes gwaith uniongyrchol wrth gyfathrebu gwybodaeth ariannol e.e. dadansoddi ac adrodd ar ddata, ateb ymholiadau, ffôn, post ac ati.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gyfrifon y GIG, gan gynnwys cysoniadau, rheolaethau, a rheolau a chanllawiau TAW.
- Profiad o osod cyllidebau a rheolaeth gyllidebol, gan gynnwys adrodd a rheoli a gweithredu camau unioni.
- Profiad o ymdrin ag asiantaethau allanol a delio ag ymholiadau ac ymatebion Archwilio.
Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am systemau adrodd ariannol a chyfrifiadurol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o Gyllidebau'r GIG a'r angen i adrodd a rheoli'r rhain yn unol â hynny ac yn briodol
- Deall goblygiadau deddfwriaeth Cyfrifyddu a GIG cyfredol fel y mae'n effeithio ar y maes gwaith
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu trefnu eich baich gwaith yn effeithiol a gweithio i amserlenni tynn
- Gallu defnyddio taenlenni a rhaglenni cyfrifiadurol Office eraill yn rhagorol
- The ability to work as part of a team, achieving a corporate objective.
- Sound communicative skills
- Ability to process, analyse and interpret complex financial data, and explain the result to non-finance staff.
- The ability to identify errors, resolve discrepancies and handle any problems as they arise.
- Ability to exercise judgement and control.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg.
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio ar eich liwt eich hun heb oruchwyliaeth a blaenoriaethu a rheoli eich baich gwaith yn briodol
- Gallu delio gyda materion sensitif a dadleuol
- Dangos y rhinweddau sydd eu hangen i weithio fel aelod effeithiol o dîm.
- Gweithio'n gywir a chadw at derfynau amser llym.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jenny fewings
- Teitl y swydd
- Senior Financial Advisor
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000851154
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sara Hughes, Financial Analyst. [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector