Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyfarwyddiaeth Meddygaeth
- Gradd
- Gradd 8b
- Contract
- Cyfnod Penodol: 6 mis (fixed term or secondment)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC420-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £59,857 - £69,553 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 03/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Dirprwy Reolwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth Feddygaeth
Gradd 8b
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Dirprwy Reolwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth
Mae cyfle wedi codi i Reolwr Gweithredol hynod brofiadol ymuno â'n tîm i ymgymryd â rôl Dirprwy Reolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth Meddygaeth a leolir yn Ysbyty Gwynedd.
Mae profiad eang o reoli darpariaeth weithredol gymhleth yn erbyn targedau cenedlaethol yn hanfodol. Mae sgiliau sylweddol o ran rheoli cyllidebau yn ogystal â sgiliau ardderchog i reoli pobl a staff hefyd yn hollbwysig, gan gynnwys y gallu i feithrin timau amlddisgyblaethol cadarn wedi'u harwain yn glinigol i yrru gwelliannau o ran llwybrau gofal cleifion yn eu blaen.
Bydd deilydd y swydd hefyd yn gyfrifol am gynnal dadansoddiadau ac am goladu darpariaeth wasanaeth yn y Gyfarwyddiaeth gan gynnwys capasiti a galw, cynllunio achosion busnes, cynllunio'r gweithlu ac adroddiadau cyflenwi BIPBC.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; byddai'r un croeso'n cael ei roi i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae profiad eang o reoli darpariaeth weithredol gymhleth yn erbyn targedau cenedlaethol yn hanfodol. Mae sgiliau sylweddol o ran rheoli cyllidebau yn ogystal â sgiliau ardderchog i reoli pobl a staff hefyd yn hollbwysig, gan gynnwys y gallu i feithrin timau amlddisgyblaethol cadarn wedi'u harwain yn glinigol i yrru gwelliannau o ran llwybrau gofal cleifion yn eu blaen.
Bydd deilydd y swydd hefyd yn gyfrifol am gynnal dadansoddiadau ac am goladu darpariaeth wasanaeth yn y Gyfarwyddiaeth gan gynnwys capasiti a galw, cynllunio achosion busnes, cynllunio'r gweithlu ac adroddiadau cyflenwi BIPBC.
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 6 mis oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deilydd y swydd hefyd yn gyfrifol am gynnal dadansoddiadau ac am goladu darpariaeth wasanaeth yn y Gyfarwyddiaeth gan gynnwys capasiti a galw, cynllunio achosion busnes, cynllunio'r gweithlu ac adroddiadau cyflenwi BIPBC.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd neu yrfa Ôl-raddedig (lefel Meistr) profiad amlwg o weithio mewn rôl glinigol neu reoli hynod gymhleth gyda sgiliau sy'n uniongyrchol berthnasol ac yn drosglwyddadwy i'r rôl hon
- Profiad o reoli prosiectau gyda thystiolaeth o arwain a rheoli prosiectau gwella yn y lleoliad iechyd a/neu ofal cymdeithasol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus trwy gyfuniad o gyrsiau, hyfforddiant mewn swydd a phrofiad
Meini prawf dymunol
- Clinigydd Cofrestredig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth helaeth am y GIG
- Profiad o fewn y sector Gofal Iechyd ar lefel uwch reolwyr gan gynnwys cyfrifoldeb am gynllunio strategol a rheolaeth gyllidebol ar gyfer gwasanaeth mawr ac yn cynnwys ystod amrywiol o wasanaethau.
- Hanes profedig o gyflawni targedau gofal iechyd heriol
- Dealltwriaeth glir o ddadansoddiad galw a chapasiti a phrofiad o'i ddefnyddio mewn rheolaeth weithredol
- Profiad o offer a thechnegau ailgynllunio prosesau a gwella gwasanaethau
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddefnyddio ystadegau wrth ddatblygu ac asesu gwelliannau gofal iechyd
- Dealltwriaeth gadarn o gymhlethdodau economaidd, ariannol a threfniadol y GIG ar lefel leol a chenedlaethol
Tueddfryd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddeall a chyflwyno data cymhleth mewn modd syml a dealladwy
- Y gallu i gyfathrebu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
- Y gallu i ddehongli Polisi Cenedlaethol i'w weithredu
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mrs Joanna Elis-Williams
- Teitl y swydd
- Medicine Directorate General Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000840479
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector