Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- PACU/Theatres
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Cyfnod Penodol: 3 blynedd (tan 05/02/2028 i cwrdd gofynion y gwasanaeth.)
- Oriau
- Rhan-amser - 16 awr yr wythnos (Yn cynnwys gwaith Nos 20:00 - 08:15)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS193-0425-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- PACU, Theatres, Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 29/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Gweinyddol PACU
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 3 blynedd. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae swydd ymarferydd cynorthwyol yr Uned Gofal Ôl-anaesthetig wedi'i ddylunio i ddarparu gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth o dan arweiniad a chefnogaeth nyrs gofrestredig neu ymarferydd adran lawdriniaeth drwy ddilyn LocSSIPS theatr lawdriniaeth / safon arfer adran lawdriniaeth a phrotocolau, gweithdrefnau a pholisiau BIPBC.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarparu gofal o safon uchel, diogel, unigol, effeithlon, cost effeithiol dan awdurdod dirprwyedig Nyrs Gofrestredig/ODP.
Bydd yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol er mwyn gofalu am gleifion o fewn amgylchedd yn ystod llawdriniaeth i fodloni anghenion gofal.
Bydd deilydd y swydd yn cyfathrebu'n effeithiol bob amser ac yn cydweithio ag aelodau eraill y tîm.
Bydd deilydd y swydd yn ymarfer yn unol â gofynion safonau a statudol BIPBC, ac yn gweithredu o fewn ffiniau'r rôl a galluoedd wedi'u hasesu.
Bydd deilydd y swydd yn datblygu'r rôl fel sy'n ofynnol o fewn ffiniau'r amlinelliad swydd KSF a galluoedd y cytunwyd arnynt.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Ymgymryd â dyletswyddau a ddyrennir o ran gofal unigol y claf fel y dynodir gan y RN/ODP yn unol â pholisiau/gweithdrefnau theatr/BIPBC.
- Cymryd rhan mewn paratoi'r uned gofal Ôl-anaesthetig o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod yr offer cywir ar gael.
- Helpu i gynnal lefelau stoc yn ogystal â helpu i archebu eitemau stoc unigol pan fo angen. Rhoi gwybod am unrhyw anghysondebau.
- Cynorthwyo gyda glanhau'r amgylchedd, gan gynnwys trolïau/gwelyau cleifion ac offer PACU.
- Sicrhau yr ymdrinnir â chynnyrch gwastraff yn ddiogel o ran diogelwch personol o ran bygythiad o anaf gan bethau miniog.
- Sicrhau bod unrhyw newidiadau yng nghyflwr cleifion/cleientiaid neu amgylchiadau yn cael eu hadrodd arnynt yn syth i'r unigolyn priodol/Nyrs Gofrestredig/ODP mewn gofal.
- Ymgymryd â gofal ymarferol cleifion drwy barchu hawl y claf i breifatrwydd, urddas a chyfrinachedd bob amser.
- Sicrhau y cedwir at ODSOPS y cytunwyd arno ar gyfer theatr a phrotocolau BIPBC ynymwneud â rhoi gofal cleifion yn yr Adran Llawdriniaeth.
- Sicrhau bod cofnodion gofal cleifion yn cael eu cofnodi'n gywir.
- Defnyddio offer yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr ac adrodd ynghylch unrhyw namau ar unwaith.
- Cyfathrebu â chleifion, staff ysbyty ac ymwelwyr mewn ffordd barchus, ac mewn un sy'n hybu hunanbarch a safonau proffesiynoldeb.
- Cofnodi gwybodaeth yn gywir ar system wybodaeth y theatr.
- Cynnal lefelau stoc cytunedig, yn cynnwys monitro dyddiadau dod i ben eitemau tafladwy.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystysgrif lefel 4 mewn addysg uwch : arfer gofal iechyd
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd llawdriniaeth
Meini prawf dymunol
- Profiad gofal iechyd perthnasol
- • Dealltwriaeth o rôl ymarferydd cynorthwyol PACU
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol ardderchog
- Cyfathrebu'n effeithiol
- Hunangymhelliant
- Ymagwedd garedig tuag at gleifion
- Gallu gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
- Gallu delio â sefyllfaoedd emosiynol cymhleth ac anodd
- Adnabod ei gyfyngiadau ei hun
- Gallu cymathu gwybodaeth a sgiliau newydd yn effeithiol
- Agwedd bositif
- Yn gallu derbyn beirniadaeth adeiladol
- Sgiliau trefnu da
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
- Sgiliau TG sylfaenol
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Rhoi cleifion yn gyntaf
- Gwerthfawrogi a pharchu eraill
- Cydweithio
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Eiddwen Hughes
- Teitl y swydd
- Recovery Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 841835
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Croeso i Rhiwyn sydd gyda diddordeb yn y swydd i ddod draw i weld yr ardal/swydd cyn yr cyfweliad
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector