Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Pediatreg
Gradd
Gradd 3
Contract
Llawn amser Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (9am-5pm)
Cyfeirnod y swydd
050-AC327-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/05/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ysgrifennyddes Meddygol

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Gwasanaeth gweinyddol cywir, cyfrinachol a chefnogol i gleifion, timau clinigol, gofalwyr ac asiantaethau mewnol ac allanol (e.e. Awdurdod Lleol, Trydydd Sector, CAIS) er mwyn: Darparu llwybr cleifion diogel ac effeithiol a darparu gwybodaeth a chefnogaeth briodol i deuluoedd a gofalwyr.

Bydd deilydd y swydd yn cefnogi darparu gwasanaeth ysgrifenyddol gweinyddol meddygol cynhwysfawr, o ansawdd uchel.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn dymuno penodi ysgrifennydd brwdfrydig, llawn cymhelliant a phrofiadol ar gyfer yr Adran Paediatreg Llym.  Mae hon yn swydd llawn amser, 6 mis, cyfnod penodol, sy'n cynnwys ystod o dasgau gweinyddol i gynnal gwasanaeth ysgrifenyddol prydlon a chywir.

Rhaid bod gennych y gallu i gynhyrchu gwaith effeithlon a chywir ac felly bydd gennych brofiad ysgrifenyddol blaenorol. Bydd gennych sgiliau teipio bysellfwrdd a sain rhagorol a byddwch yn hyddysg yn y defnydd o becynnau Microsoft, gan gynnwys Word, Excel ac Outlook.

Mae'r gallu i flaenoriaethu'ch gwaith a bod yn drefnus iawn yn hollbwysig i'r swydd hon, ynghyd â sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol rhagorol, sy'n cynnwys arddull ffôn cyfeillgar, a byddwch yn gweithio mewn modd proffesiynol, sensitif ac yn cynnal cyfrinachedd bob amser.

Os oes gennych y sgiliau a'r galluoedd uchod i'w cynnig, edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Mae hon yn swydd parhaol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd deilydd y swydd yn aelod allweddol o'r tîm ysgrifenyddion meddygol yn darparu gwasanaeth gweinyddol cywir a chyfrinachol i'r Arbenigedd Clinigol a'i ffrydiau gwaith cysylltiedig. Bydd deilydd y swydd yn cefnogi meddygon ymgynghorol, staff meddygol iau a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill i greu arferion a phrosesau gorau, cefnogi rheoli dyddiaduron, baich gwaith a chydlynu apwyntiadau a derbyniadau'n ymwneud â gwybodaeth i gleifion a gofalwyr.

Bydd gan ddeilydd y swydd sgiliau teipio da a chywir a bydd yn sicrhau bod yr arbenigedd yn cadw system effeithiol i ffeilio a chofnodi gwybodaeth. Bydd yn cynllunio a threfnu ei amser ei hun, gan addasu apwyntiadau clinig i gleifion a sicrhau bod nodiadau'n barod ar gyfer clinigau fel bo angen.

Casglu gwybodaeth ar gyfarwyddyd yr uwch ysgrifennydd meddygol a/neu reolwr gweinyddol.

Gweithio ar ei liwt ei hun i flaenoriaethu a chynllunio ei faich gwaith ei hun i fodloni cytundebau lefel gwasanaeth a dangosyddion perfformiad allweddol a bydd yn myfyrio ar ei berfformiad ei hun ac yn ei wella, gan gefnogi rheoli newid a gwelliannau i weithdrefnau a datblygiadau gwasanaeth.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ Gweinyddu Busnes L3 neu brofiad cyfatebol.
  • Cymhwyster yn ymwneud â TG CLAIT plus /ECDL neu gyfatebol.
  • RSA /OCR lefel 2 neu brofiad cyfatebol (rhaid gallu defnyddio Microsoft Word).
Meini prawf dymunol
  • AMSPAR – City & Guilds L3.
  • NVQ L3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol â staff ar bob lefel, yn llafar ac yn ysgrifenedig.
  • Gallu defnyddio Microsoft Office.
  • Profiadol mewn cynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun.
  • Hyblyg ac addasadwy i alwadau cyfnewidiol y gwasanaeth.
  • Sgiliau trefnu rhagorol.
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau cymryd cofnodion.

GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus.
  • Gallu delio â gwybodaeth sensitif.
Meini prawf dymunol
  • Gallu teithio i fodloni gofynion y swydd.
  • Siaradwr Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Victoria Higton
Teitl y swydd
Admin Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 842109
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg