Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Cymryd rhan yng ngwasanaethau fferyllfa gwyliau cyhoeddus a phenwythnosau fel bo angen)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST063-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Fferyllydd Clinigol
Gradd 7
Trosolwg o'r swydd
A ydych chi'n chwilio am her newydd i ehangu eich portffolio â chyfle i weithio mewn meysydd clinigol gwahanol? Ymunwch â ni i ddatblygu eich gwybodaeth wrth weithio mewn meysydd clinigol amrywiol. Bydd enghreifftiau o'r meysydd yn cynnwys meddygaeth, llawfeddygaeth gan gynnwys clinigau cyn llawdriniaethau, iechyd meddwl, gwasanaethau aseptig a gofal yn y gymuned.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y caiff fferyllwyr y profiadau dysgu a'r cymorth gorau posibl ac rydym yn credu fod hyn yn gam delfrydol at ddod yn ymarferydd arbenigol neu'n uwch ymarferydd. Byddwch yn cael eich mentora gan uwch fferyllwyr a fferyllwyr ymgynghorol mewn amrywiaeth o feysydd clinigol. Byddwch yn cael eich cynorthwyo i ddatblygu fel rhagnodwr ac i gymhwyso ar lefel uwch craidd gyda’r RPS. Mae gennym gysylltiadau da â phrifysgolion lleol, ac mae hynny'n cynnig cyfleoedd ymchwil a datblygu. Rydym yn cynorthwyo staff i barhau â'u haddysg trwy gyllid ymarfer uwch ac estynedig.
Mae ein tîm fferylliaeth glinigol yn darparu gwasanaeth o ansawdd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau y defnyddir meddyginiaethau yn ddiogel ac yn effeithiol yn gymuned iechyd integredig. Bydd gweithredu system rhagnodi electronig Better Meds yn y 12 mis nesaf yn trawsnewid ein ffordd o weithio. Fel fferyllydd sy'n gweithio mewn timau amlddisgyblaethol amrywiol, byddwch yn darparu gofal fferyllol rhagorol ac yn sicrhau y gwneir y defnydd mwyaf priodol o feddyginiaethau er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau i'n cleifion.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn cydnabod y bydd arweinwyr ein proffesiwn yn y dyfodol yn fferyllwyr fel chi sydd ag awydd i lwyddo ac sy'n alluog. Bydd eich proffesiynoldeb, eich sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'ch brwdfrydedd yn sicrhau y byddwch yn gyfrannwr gwerthfawr at ein gwasanaeth ac yn aelod allweddol o'n tîm fferylliaeth glinigol. Ein huchelgais yw cyflawni gofal rhagorol a gwreiddio gwelliannau parhaus.
Bydd cyfleoedd i ddatblygu sgiliau addysg a hyfforddiant trwy gysylltiadau ag Ysgol Fferylliaeth newydd Prifysgol Bangor a byddwch yn cyfrannu at hyfforddiant clinigol a goruchwyliaeth ar gyfer myfyrwyr fferylliaeth israddedig ac aelodau'r tîm fferylliaeth, yn ogystal â chydweithwyr meddygol a nyrsio.
Dewch i fod yn rhan o'n tîm cyfeillgar a chryf eu cymhelliant a gallwch rannu ein gwerthoedd, sef gofalu am bobl a'u cadw'n iach, drwy ddylanwadu ar gyfeiriad gwasanaethau fferylliaeth yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at ddarllen eich cais.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae'r un cyfle i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd MPharm neu gyfwerth
- Cofrestredig gyda’r Gymdeithas Fferyllol Gyffredinol
- MSc/Diploma Ôl-radd mewn Fferylliaeth Glinigol neu brofiad a / neu gymwysterau cyfwerth
Meini prawf dymunol
- Achrededig neu'n gymwys i fod yn achrededig fel tiwtor diploma Fferyllfa Clinigol HEI / MSc
- Cymhwyster rhagnodi heb fod yn feddygol
- Aelod o RPS
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad eang ôl-gofrestru
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn maes arbenigol clinigol
Dawn a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da ar lafar/yn ysgrifenedig
- Dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
- Tystiolaeth o roi newid ar waith
- Gallu bodloni terfynau amser
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o reoli pobl yn llwyddiannus
- Datblygu protocolau a gweithdrefnau
- Sgiliau addysgu a chyflwyno
Arall
Meini prawf hanfodol
- Cymryd rhan yng ngwasanaethau'r fferyllfa dros wyliau cyhoeddus a phenwythnosau fel bo angen
- Parodrwydd i gymryd rhan mewn rota dyletswydd "ar-alwad" y tu allan i oriau fel bo angen
Meini prawf dymunol
- Yn gallu teithio rhwng safleoedd yn brydlon
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Anke Hagemi
- Teitl y swydd
- Pharmacy Patient Safety Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 842097
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector