Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos (Mae cymryd rhan mewn rota dyletswydd penwythnos ac argyfwng (y tu allan i oriau) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.)
Cyfeirnod y swydd
050-PST082-0626
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£58,379 - £65,723 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/06/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Fferyllydd Uwch

Gradd 8a

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi'n fferyllydd sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth ystyrlon i'r gwasanaeth, darpariaeth, profiad a chanlyniad gorau I gleifion rheumatoleg yn y Gymuned Iechyd Integredig y Gorllewin (IHC)?

Rydym yn chwilio am fferyllydd dynamig, blaengar i ymuno â'r tîm amlddisgyblaethol rheumatoleg hen sefydledig a chefnogol sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Rheumatoleg Peter Maddison yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno.

Byddwn yn eich croesawu chi fel aelod o'n tîm fferyllol cyfeillgar a chefnogol yn Ysbyty Gwynedd, a byddwch yn gweithio i gyflawni ein nod o ddarparu gofal fferyllol di-dor, sy'n canolbwyntio ar y claf, yn gwneud y mwyaf o iechyd a lles pobl Gogledd Orllewin Cymru. Byddwch yn cael eich cefnogi yn eich taith gymhwyso a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu eich sgiliau clinigol ymhellach ar lefel ymarfer clinigol uwch. Bydd ein cysylltiadau sefydledig â phrifysgolion ar draws Cymru yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan yn y dysgu a mentora myfyrwyr fferylliaeth israddedig.

Os ydych yn fferyllydd gyda chefndir rheumatoleg blaenorol neu'n fferyllydd clinigol profiadol yn barod i gamu i rôl glinigol arbenigol, hoffwn ni glywed gennych. Bydd eich cynllun gwaith yn canolbwyntio ar ymarfer clinigol yn adran rheumatoleg 2 ddiwrnod yr wythnos, a fydd yn galluogi hyblygrwydd i addasu gweddill eich wythnos o amgylch eich profiad clinigol blaenorol a'r anghenion gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd yn Bangor. Gellir hefyd ystyried gweithio rhan-amser a/neu swydd rannu gyda'ch rôl bresennol.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gweithio’n uniongyrchol gyda chynghorwr rhiwmatoleg a nyrsys arbeinigol, gan gynnal eich llwyth clinig eich hun fel rhagnodwrannibynnol gan gymryd cyfrifoldeb am rhangodi DMARDS, cyffuriau biolegol, a meddyginiaethau arbenigol i gleifion gyda Arthritis Rhematoid a chyflyrau rhiwmategol eraill.

Ymarfer fel rhagnodwr annibynnol mewn clinigau cleifion allanol ochr yn ochr â chynghorydd rhiwmatoleg, darparu gofal fferyllol arbennig a chyfrannu at wella defnydd meddyginiaethau.

Arwain ar ragnodi diogel, cost–effeithiol ar draws yr arbenigedd, gan gynnwys monitro gwariant a defnydd cyffuriau, a newid i gyffuriau fiodebyg.

Datblygu a gweithredu canllawiau, polisiau, a phrotocolau rhagnodi ar gyfer yr adran.

Cynrychioli fferyllfa mewn MDT rhiwmatoleg, cyfarfodydd llywodraethu a chyfrannu at rwydweithiau arbenigol rhanbarthol a chenedlaethol.

Gweithredu fel esiampl dda yn glinigol er mwyn cefnogi, mentora ag addysgu myfyrwyr ffeylliaeth, fferyllwyr dan hyfforddiant, fferyllwyr cylchdro a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill.

Gyrru datblygiad ac arloesedd y gwasanaeth, gyda’r cyfle i gymeryd rhan mewn ymchwil / archwiliadau a rhannu dysgu drwy gyhoeddi a chyflwyno mewn cynhadleddau.

Mae’rgallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; croesewir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn gyfartal.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Gradd MPharm neu gyfwerth
  • Cofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
  • Gradd Ôl-raddedig MSc/Diploma yn y Fferylliaeth Glinigol neu brofiad a/neu gymwysterau cyfwerth
  • Cymhwyster rhagnodi di-feddygol - neu'n gweithio tuag at hynny
Meini prawf dymunol
  • Aelodaeth o gymdeithas broffesiynol berthnasol
  • Awdurdodedig neu'n gymwys i gael ei awdurdodi fel tiwtor Diploma/MSc Fferylliaeth Glinigol sefydliad Addysg Uwch
  • Cymhwyster hyfforddiant arweinyddiaeth a/neu reolaeth

experience

Meini prawf hanfodol
  • Rhaid bod yn gallu dangos lefel briodol o brofiad yn gweithio yn y sector rheoledig ac/neu feddygfa gymunedol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad yn y maes clinigol perthnasol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Anke Hagemi
Teitl y swydd
Pharmacy Patient Safety lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 842077
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad, please cyswllt:

Kate Taylor, Medical Lead Pharmacist (East) 03000 857745, [email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg