Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 4 (Appendix 21 - 70% ar frig Band 4 ar gyfer y flwyddyn 1af, a 75% ar frig Band 4 ar gyfer yr 2ail flwyddyn)
- Contract
- Cyfnod Penodol: 2 flynedd (2 flwyddyn o dyddiad cyntaf - i cwrdd gofynion y gwasanaeth)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (09:00 - 17:15)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS825-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Prentisiaeth Technegydd Fferylliaeth Cyn-Gofrestru (Hyfforddiant ôl)
Gradd 4 (Appendix 21 - 70% ar frig Band 4 ar gyfer y flwyddyn 1af, a 75% ar frig Band 4 ar gyfer yr 2ail flwyddyn)
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL AM 2 FLYNEDD I GWRDD GOFYNION Y GWASANAETH
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae'r swydd hyfforddi hon yn darparu cyfle i ennill y profiad a'r cymhwyster/cymwysterau gofynnol i gofrestru fel technegydd fferyllol gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC)
Band 4 (Appendix 21 - 70% ar frig Band 4 ar gyfer y flwyddyn 1af, a 75% ar frig Band 4 ar gyfer yr 2ail flwyddyn)
Mae technegwyr fferyllol yn meithrin lefelau uchel o arbenigedd mewn perthynas â meddyginiaethau ac iechyd, ac maent yn gweithio'n rhan o dimau gofal iechyd mewn ysbytai, unedau gweithgynhyrchu, fferyllfeydd cymunedol a phractisau meddygon teulu. Maent yn canolbwyntio ar y defnydd o feddyginiaethau i sicrhau bod pob math o bobl yn cael y canlyniadau gorau o'u meddyginiaethau. Maent yn arwain timau sy'n darparu gwasanaethau meddyginiaethau.
Yn ystod yr hyfforddiant, disgwylir i chi ennill profiad sy'n adlewyrchu rolau newidiol a chynyddol y Technegydd Fferylliaeth.
Mae cwblhau'r rhaglen brentisiaeth yn llwyddiannus yn eich galluogi i wneud cais i'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol i gofrestru'n dechnegydd fferyllol, ac i ymgeisio am swyddi technegydd fferyllol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Os ydych yn fanwl gywir, yn drefnus ac yn ofalgar, ac os oes gennych ddiddordeb mewn iechyd a llesiant, yna efallai mai dyma'r cyfle i chi.
Rydym yn chwilio am unigolion blaengar, brwdfrydig, trefnus a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm Fferylliaeth dynamig a llawn cymhelliant yn Ysbyty Gwynedd.
Mae rôl y technegydd fferyllol yn amrywiol ac yn ddiddorol ac yn datblygu rolau newydd yn barhaus, a dyna pam yr ydym yn cynnig y cyfle hwn i archwilio'r rôl arloesol hon mewn rhaglen hyfforddi gylchdro. Byddwch yn ennill profiad mewn lleoliad Ysbyty yn dosbarthu ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol, ynghyd â phrofiad o Brynu a Dosbarthu a gwaith ar y ward. Bydd cyfle gennych i gylchdroi rhwng safleoedd ysbytai cymunedol a meddygfeydd teulu fel rhan o'r hyfforddiant traws-sector.
Byddwch yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn wythnos brosiect ar safle gwahanol neu mewn gofal sylfaenol yn ogystal â chynnal archwiliadau a chyflwyniadau fel rhan o'ch hyfforddiant. Byddwch yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn wythnos brosiect ar safle gwahanol neu mewn gofal sylfaenol yn ogystal â chynnal archwiliadau a chyflwyniadau fel rhan o'ch hyfforddiant.
Mae'r rôl hon yn gofyn am deithio rhwng gwahanol safleoedd byrddau iechyd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymhwyster
Meini prawf hanfodol
- 4 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudiaeth academaidd a datblygiad proffesiynol parhaus ar ol gadael yr ysgol. NVQ lefel 2 mewn Gwasanaethau Fferylliaeth
Profiad
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn ysbyty a/neu fferyllfa gymunedol neu o fewn y GIG
Dawn ac galleuoeudd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio mewn tim, sy'n gallu trefnu hunan, sgiliau TG da, ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg Gwybodaeth am wasanaethau fferylliaeth a rol technegydd fferyllol
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn ymwybodol o weithio o fewn terfynau, proffesiynol, gofal cleifion,
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ddefnyddio rheoli amser menter ac ymarfer
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn barod i weithio mewn ardal ddwyieithog
Meini prawf dymunol
- Y gallu i deithio, gwerthfawrogiad o gyfrifoldeb gofal yr amgylchedd gofal iechyd
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Reka Kiss
- Teitl y swydd
- Senior Pharmacy Technician Training & Development
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000842093
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







.png)
