Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Theatr
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener 8:30-16:30 neu 9-5)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS464-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Theatr
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/08/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Theatr Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn cefnogi staff gofal iechyd presennol i ddarparu gwasanaeth diogel ac effeithiol mewn amgylchedd gofalgar sy’n cefnogi datblygiad proffesiynol a gwasanaeth. Disgwylir i ddeilydd y swydd sicrhau bod pob claf sy’n dod i’r dderbynfa yn cael pob gwiriad priodol cyn cael ei symud i’r theatr llawdriniaethau.
Rheoli'r modd mae pob claf yn cael ei ddanfon i’r theatr llawdriniaethau cywir, gan sicrhau bod pob gwybodaeth berthnasol yn cael ei gyfleu i’r ymarferydd sy’n derbyn trosglwyddiad gofal.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyflawni tasgau penodol ym maes cynllun gofal a ddynodir gan y nyrs â gofal ac yn unol â Pholisïau a Gweithdrefnau BIPBC.
Cyfnewid gwybodaeth ffeithiol gyda chleifion gan eu cysuro, a defnyddio doethineb ac empathi i sicrhau eu bod yn deall.
Sicrhau cyfforddusrwydd ac ystyried y claf a'i deulu neu gyfeillion ac ymateb gyda charedigrwydd ac empathi.
Rheoli'r ffeil rhestrau llawdriniaeth gyda'r derbynnydd fel bod yr holl restrau yn gyfredol ac yn gywir a bod pob ardal berthnasol wedi cael copïau.
Arsylwi'r dderbynfa’n gyffredinol o ran rheoli stoc, taclusrwydd a glanweithdra cyffredinol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn tîm
Meini prawf dymunol
- Profiad 6 mis mewn gwaith gofal
- Wedi gweithio mewn theatr/ysbyty
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol o safon dda
- CGC Lefel 3 iechyd neu bwnc perthnasol neu fodlon gweithio tuag at CGC Lefel 3 o fewn 12 mis o ddechrau y swydd.
Dawn a galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol da, doethineb a diplomatig.
- Awyddus a brwdfrydig i ddysgu
- Gofalus a chydwybodol
Meini prawf dymunol
- Gallu i weithio dan bwysau
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio oriau hyblyg
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Eiddwen Haf Hughes
- Teitl y swydd
- Recovery Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000841835
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector