Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Theatrau
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 28.5 awr yr wythnos (yn cynnwys shifftiau buan, hwyr, penwythnos a nos)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS525-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£24,833 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/10/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Theatr

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Chwilio am rôl heriol ac sy'n rhoi boddhad? Eisiau swydd lle mae bob diwrnod yn wahanol?

Rydym eisiau personél ymroddgar addas ac awyddus iawn ar gyfer swydd  sydd ar gael fel Cynorthwyydd Theatr yn gweithio yn Theatrau Llawdriniaeth Ysbyty Gwynedd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth ar gyfer darparu gofal o safon uchel i gleifion o fewn yr ystafell theatr ac i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol yn y theatr.

Bydd deilydd y swydd yn darparu gwasanaeth cludiant ar gyfer pob claf sy'n dod i'r theatr ac yn ôl i'r ward a hefyd o fewn yr ystafell theatr llawdriniaeth.

Bydd deilydd y swydd yn sicrhau bod gofal o safon uchel, nad yw'n gwahaniaethu a heb ragfarn, a bydd yn gwneud yr holl dasgau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r uned.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

 

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Lefel 2 mewn Gofal neu Yn gallu ymgymryd â chyfnod ymsefydlu a hyfforddiant yn y swydd a fydd yn cynnwys gwybodaeth ddamcaniaethol am ofal ac ystod o weithdrefnau cysylltiedig â gwaith, er enghraifft cwblhau llyfr gwaith seiliedig ar gymhwysedd sy'n cyfateb i gymhwyster galwedigaethol Lefel 2.
  • Yn gallu deall a chydymffurfio â safonau ymsefydlu gorfodol a'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 mewn pwnc perthnasol sy’n ymwneud â gofal iechyd.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm.
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio gyda phobl mewn rôl gofalu.

Profiad gofal iechyd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu da – ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda’r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir ac yn sensitif
  • Yn gallu aros yn bwyllog mewn sefyllfaoedd sy’n achosi straen
  • Yn gallu dangos agwedd ofalgar a thosturiol
  • Sgiliau trefnu, gyda'r gallu i gynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun yn effeithlon
  • Yn gallu defnyddio technoleg i ymgymryd â’r rôl er enghraifft Microsoft Office, e-bost, Teams ac ati
  • Gallu corfforol i gyflawni dyletswyddau'r rôl, gan gynnwys codi, cynorthwyo gyda symudedd, a chyflawni tasgau llaw eraill
Meini prawf dymunol
  • Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Cliriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan gynnwys gwiriad Rhestr Waharddedig Oedolion/Plant
  • Yn gallu gweithio amrywiaeth o batrymau sifft.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Paul Castleman
Teitl y swydd
Theatre Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 841838
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg