Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapi
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS738-1025W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- IHC Gorllewin, Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/11/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Clerc Mynediad a Chadw Cleifion heniant
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i aelod o staff profiadol addas i weithio ar lefel Band 3 gyda’r Gwasanaeth Ffisiotherapi yn Ardal y Gorllewin..
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth gweinyddol i’r Gwasanaeth Ffisiotherapi yn Ardal y Gorllewin a bydd angen iddo/iddi weithio ar ei liwt ei hun i fodloni gofynion cleifion ac i sicrhau bod clinigau/ apwyntiadau yn cael eu trefnu i sicrhau defnydd effeithiol o amser clinigol.
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd heriol sy’n ymgymryd â newidiadau parhaus a bydd angen i chi ddefnyddio’ch barn a defnyddio amryw o sgiliau i ddelio â materion o ddydd i ddydd.
Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd arddangos agwedd sensitif a gofalgar sy’n canolbwyntio ar y claf a chynnal agwedd digynnwrf a threfnus wrth weithio dan bwysau
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu gwasanaeth gweinyddol cywir a phrydlon i hwyluso darpariaeth gwasanaeth trefnu apwyntiadau effeithiol ac effeithlon. Darparu cefnogaeth derbynfa a neilltuo cynhwysfawr i'r Gwasanaethau Therapi, gan arddangos arddull gwrtais, broffesiynol a sensitif bob amser. Mae disgwyl i ddeilydd y swydd flaenoriaethu, rheoli ei amser a dangos llawer o hyblygrwydd.
Bod yn rhan o wasanaeth gweinyddol cydlynol ac integredig y gwasanaeth. Yn sgil natur y dyletswyddau, bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd gadw cyfrinachedd a bydd disgwyl iddo/iddi ddelio â chleifion, gofalwyr, perthnasau, staff meddygol a defnyddwyr gwasanaeth eraill, dros y ffôn ac ar bapur, a hynny’n gwrtais a chan ddefnyddio doethineb bob amser.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
1) Darparu gweinyddiaeth "pwynt mynediad cyntaf" i bob atgyfeiriad gan Ymgynghorwyr, MT, nyrsys ysgol, gweithwyr cymdeithasol ac unrhyw broffesiynolion eraill. Prosesu atgyfeiriadau drwy fewnbynnu manylion cleifion yn gywir ar y System Weinyddu Cleifion, gan sicrhau bod atgyfeiriadau brys yn cael eu blaenoriaethu. Hefyd, bod yn gyfrifol am ddiweddaru a gwirio dalennau dychweliadau clinigol/canlyniadau clinig mewn modd amserol. Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf yn y dderbynfa ar gyfer bob ymholiad ac atgyfeiriad i'r gwasanaeth, gan gynnwys derbyn a chyfarch ymwelwyr mewn modd cwrtais a phroffesiynol a chyfeirio ymwelwyr fel bob angen ac ymdrin ag ymholiadau amrywiol gan y cyhoedd, rhai weithiau o natur sensitif ac ysgytiol.
2) Sicrhau bod yr holl gyfathrebu â'r cyhoedd, staff ac unrhyw asiantaeth arall yn cael eu trin yn gyfrinachol ac yn broffesiynol, er mwyn helpu staff clinigol ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf mewn modd broffesiynol, cynorthwyol a sensitif.
3) Defnyddio System Weinyddu Cleifion y Bwrdd Iechyd, trefnu a neilltuo apwyntiadau clinigol wyneb yn wyneb a thros y ffôn. Defnyddio blaengaredd i sicrhau bod apwyntiadau cleifion yn cael eu dyrannu o fewn yr amserau amser gofynnol a gwneud y deunydd gorau o amser clinigol.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Safon addysg dda yn gyffredinol
- Hyfforddiant NVQ lefel 3 neu lefel gyfatebol o wybodaeth a phrofiad
- Cymwysterau TG neu brofiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am systemau gweinyddol ysbytai, WPAS a systemau rheoli therapïau
- Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL neu sgiliau cyfatebol)
- Dealltwriaeth o derminoleg feddygol sylfaenol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn swyddfa brysur sy'n ymdrin â'r cyhoedd
- Profiad o ddarparu a derbyn gwybodaeth sy'n gofyn am bwyll neu sgiliau darbwyllo lle mae rhwystrau i ddeall gwybodaeth
- Gwybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data a deddfwriaeth berthnasol
- Ymwybyddiaeth o gyfrinachedd cleifion
- Yn gyfarwydd â gweithdrefnau gweinyddol a materion polisi
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o systemau cyfrifiadurol
- Profiad blaenorol o gofnodion meddygol neu brofiad clercol mewn ysbyty
- Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda staff clinigol/ymgynghorol
- Profiad blaenorol o reoli rhestr aros
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog (ysgrifenedig, ar lafar a thros y ffôn) yn Gymraeg (hyd at lefel 4 o leiaf) ac yn Saesneg
Gofynion ymgeisio
Bydd y swydd hon yn gofyn am gyflwyno Datgeliad i wirio am unrhyw gollfarnau troseddol sydd heb ddarfod.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Simon Cooper
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Service
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 841884
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector