Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Gweinyddol
Gradd
Gradd 8c
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC539-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£78,120 - £90,013 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/08/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaethau - Meddygol

Gradd 8c

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae'r Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth yn gyfrifol am reoli strategaeth, gweithrediad a pherfformiad, ansawdd gwasanaeth a chynllunio, defnyddio adnoddau a moderneiddio ar y safle, gyda gofynion penodol i gyflawni targedau amserau aros.   Bydd angen i ddeilydd y swydd fod â gwybodaeth a phrofiad helaeth a datblygedig ar draws ystod eang o feysydd rheoli a chlinigol - yn cynnwys ystadau, adnoddau dynol, cyllid, llywodraethu clinigol/darpariaeth gwasanaethau eraill.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth yn aelod allweddol o Dîm Rheoli'r Ysbyty, ac oherwydd hyn, bydd yn cymryd rhan a chyfrannu at gynllunio corfforedig a threfniadau rheoli perfformiad safle'r ysbyty drwy arwain ar ei faes gweithredol o waith.   Bydd pwyslais arbennig ar wella gofal cleifion, profiad a safonau gwasanaeth a chynyddu effeithiolrwydd.  I hwyluso hyn, bydd angen gweithio'n agos gyda strwythur yr ardal i reoli rhyngweithiad rhwng gofal cychwynnol, cymunedol ac eilaidd.

 

Bydd y Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth yn gweithredu ag ymreolaeth sylweddol a bydd yn gyfrifol am ddynodi a throsi polisi a strategaeth y gwasanaeth iechyd, gan ymgorffori hyn mewn fframwaith rheoli perfformiad ar gyfer yr ysbyty. Bydd y Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth yn rheoli staff ar y safle o ran cyflawni targedau gweithredol, ariannol, perfformiad a gweithgaredd.  

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Rheoli Gweithredol/Cyffredinol

        Yn gyfrifol am ddarparu lluosog wasanaethau clinigol, proffesiyol ac eraill yr ysbyty, yn unol â threfniadau llywodraethu'r Bwrdd Iechyd a'i ofynion cydymffurfio statudol. 

        Byddwch yn gyfrifol am reoli'r safle ysbyty yn effeithiol, gan sicrhau penderfyniadau amserol a phriodol i gyflawni gofal cleifion o ansawdd o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

        Gweithio'n agos gyda rheolwyr proffesiynol arweiniol safle'r ysbyty a staff meddygol ymgynghorol, i sicrhau bod eu cynlluniau gweithredol unigol yn gyson gyda'r amcanion a blaenoriaethau corfforaethol a sicrhau bod blaenoriaethau unigol yn cael eu penderfynu o fewn y Gyfarwyddiaeth.

        Datblygu systemau rheoli perfformiad a'u gweithredu fel bod adnoddau'n cael eu defnyddio yn effeithiol ac effeithlon yn unol â pholisi'r Bwrdd Iechyd.

        Dehongli polisïau cenedlaethol megis mynediad cleifion, fframweithiau gwasanaeth cenedlaethol a safonau llywodraethu clinigol,   er mwyn eu trosi yn gynlluniau gweithredu y gellir eu cyflawni a dylanwadu a chynnig newidiadau i bolisïau'r Bwrdd Iechyd. 

        Sicrhau cyfathrebu effeithiol ac amserol gyda'r holl staff ar hyd a lled y Gyfarwyddiaeth a rhwng cyfarwyddiaethau.

        Gosod ac annog cyflawni safonau o ragoriaeth mewn arferion rheoli ac arwain hyrwyddiad ethos rheoli lle mae safonau perfformiad uchel ac ansawdd gofal uchel yn arferol.   Hyrwyddo diwylliant o fewn y Gyfarwyddiaeth, a danategir gan gyfathrebiaeth agored a gwaith tîm ar draws yr holl ddisgyblaethau.

        Yn gyfrifol am ddarparu newidiadau sefydliadol mawr a gwasanaeth ar draws ffiniau gweithredol, proffesiynol a/neu sefydliadol, i gynnwys rhesymoli'r gweithlu a datrys gwrthdrawiadau er mwyn hyrwyddo derbyniad a dealltwriaeth staff. 

Cynllunio 

        Dylanwadu'n weithredol ar ddatblygiad cynlluniau a blaenoriaethau strategol a gweithredol y Bwrdd Iechyd a LlC.

        Sicrhau bod datblygiadau gwasanaeth yn cael eu rhagweld a'u cynllunio yn unol â chyfeiriad strategol a phroses y Bwrdd Iechyd. Mae hyn yn cynnwys datblygu newidiadau tymor hwy sy'n cael effaith ar draws y safleoedd Ysbyty.

        Sicrhau datblygiad cynllun busnes cyfarwyddiaeth yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol, sy'n adlewyrchu/cefnogi cynlluniau ac amcanion cenedlaethol a lleol sy'n darparu gofal cleifion modern a 'gynlluniwyd' sy'n ymateb i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.

        Yn gyfrifol am broses dreigl 5 mlynedd cynllunio cyfalaf y Gyfarwyddiaeth, gan sicrhau bod asedau cyfalaf yn cael eu rheoli'n effeithiol. Gweithio'n unol â Chynllun Gweithredol y Bwrdd Iechyd; Fframwaith Cyfalaf, Grwpiau Cydweithredol Cenedlaethol a Law yn Llaw at Iechyd.

        Paratoi achosion busnes i gefnogi newidiadau/datblygiadau strategol tymor hir i wasanaethau yn unol ag arweiniad cenedlaethol a lleol e.e. Fframwaith  Gwasanaeth Cenedlaethol, Cynllun Canser ac achosion busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer newidiadau ac ail gynllunio gwasanaethau yn y tymor hir yn cynnwys datblygiadau cyfalaf mawr.

        Cynllunio trefniadau gweithredol a'u rhoi ar waith ar gyfer cyflawni targedau'r Ysbyty o ran safonau ac ansawdd gofal a gweithgarwch.

        Cefnogi'r Tîm Comisiynu i gynhyrchu a chytuno ar gontractau gwasanaeth a phroffiliau cynllunio capasiti gyda chomisiynwyr.

        Arwain ar drafodaethau gyda chomisiynwyr o ran datblygiad /newid strategol meysydd gwasanaeth penodol.         

        Dyfeisio a gweithredu amcanion ar gyfer pob maes glinigol, is-arbenigedd a darparu cefnogaeth rheoli perfformiad i fonitro cyflawniad ac ymateb i'r Adolygiad Perfformiad Ysbyty.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • • Gradd Ôl-radd mewn pwnc perthnasol
  • • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol/Rheolaethol parhaus
  • • Cymhwyster Rheoli
  • • Datblygiad Proffesiynol / Rheolaethol mewn maes perthnasol sy’n gyfwerth â gradd meistr
Meini prawf dymunol
  • • Gradd meistr ym maes rheoli neu gyfwerth.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad rheoli prosiect
  • • Profiad o roi arloesiadau ar waith a rheoli newid mewn amgylcheddau clinigol – safleoedd lluosog
  • • Profiad sylweddol o weithredu’n effeithiol ar lefel uwch yn y sefydliad.
  • • Profiad o archwilio clinigol a rhoi camau gweithredu ar waith
  • • Profiad o weithio amlbroffesiynol ar lefel uwch / gweithio’n effeithiol gyda rhanddeiliaid eraill
  • • Rheoli cyllideb gwasanaeth sylweddol
  • • Profiad o reoli gweithredol
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn gofal heb ei drefnu a gofal wedi’i drefnu

Aptitude and Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Bydd deilydd y swydd yn hynod fedrus o ran cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig ar bob lefel.
  • • Meddu ar rinweddau arwain
  • • Gallu meddwl yn ochrol, blaenoriaethu’n effeithiol, dadansoddi a datrys problemau cymhleth.
  • • Gweithio’n unol â therfynau amser
  • • Mae lefel uchel o sgiliau rheoli pobl/rhyngbersonol yn hanfodol.
  • • Gallu i drafod yn ddoeth / yn bendant – gan weithio mewn meysydd sensitif.
  • • Yn hyfedr mewn datrys gwrthdaro
  • • Yn hyfedr mewn Microsoft Office/Professional/Rhyngwladol
  • • Sgiliau dylanwadu effeithiol
  • • Addysgwr effeithiol gyda thystiolaeth ddiweddar o hyfforddi / addysgu eraill mewn lleoliad ffurfiol.
  • • Medrus a phrofiadol o ran rheoli a chyflawni newid yn llwyddiannus
  • • Galluoedd arwain ardderchog
  • • Cyfathrebu’n effeithiol
  • • Sgiliau trefnu
  • • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
  • • Yn fedrus o ran trafod
  • • Tystiolaeth o wybodaeth am benderfynyddion allweddol iechyd a moderneiddio gwasanaethau i sicrhau gwelliannau
  • • Dangos y gallu i gymhwyso arfer yn seiliedig ar dystiolaeth er mwyn arwain at newid
  • • Pennu cyllidebau a rheoli cyllidebau
  • • Gwybodaeth am faterion gwleidyddol yn y GIG
  • • Gwybodaeth am safonau’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol a Chanllawiau NICE sy’n berthnasol i’r maes
Meini prawf dymunol
  • Dangos gwybodaeth fanwl am faterion yn y GIG, er enghraifft llywodraethu clinigol, mesurau ansawdd, Buddsoddwyr mewn Pobl ac archwilio

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • • Yn gallu meithrin tîm gyda sgiliau rhyngbersonol ardderchog.
  • • Sensitifrwydd yn seiliedig ar wybodaeth a sgiliau.
  • Dylid arwain trwy esiampl, gan bennu safon y mae staff yn anelu ati ac y mae staff wedi’u cymell i’w chyflawni.
  • Â meddwl agored, yn barod i dderbyn syniadau ac awgrymiadau cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.
  • • Yn wydn
  • • Ymrwymedig i ymgysylltu â staff
  • • Rhaid dangos Gwerthoedd y Bwrdd Iechyd
Meini prawf dymunol
  • Gallu gweithio’n hyblyg er mwyn delio â gofynion y gwaith

Other

Meini prawf hanfodol
  • • Hyderus
  • • Sgiliau Cyflwyno
  • • Ymagwedd Broffesiynol
  • • Ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg
Meini prawf dymunol
  • • Ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jalibani Ndebele
Teitl y swydd
Director of Operations, YGC
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 846577
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg