Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol: Ysbyty Glan Clwyd
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
050-AC244-0425-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£26,928 - £29,551 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/06/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Arweinydd Tîm Trefnu SACT

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Cefnogi'r tîm gweinyddu trefnu SACT ar draws y 3 safle ysbyty, i archebu triniaethau SACT o wasanaeth effeithlon.  O dan reolaeth y Rheolwr Gweinyddol bydd yr arweinydd tîm yn cynnal amcanion gosodedig i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'n cael eu datblygu a'u dilyn yn unol â chanllawiau a pholisïau lleol a chenedlaethol.  

Sylwch y cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, Ysbyty Glan Clwyd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Goruchwylio a rheoli'r tîm gweinyddol i ddarparu gwasanaeth archebu ac amserlennu effeithlon ac o ansawdd uchel ar draws y 3 uned achosion dydd.
  • Dadansoddi llwyth gwaith a rotâu staff yn effeithiol.
  • Rheoli rhestr aros cleifion i sicrhau cydymffurfiaeth â thargedau'r Ymddiriedolaeth / Llywodraeth Cymru, gan gynyddu achosion posibl o dorri amodau yn unol â pholisi / gweithdrefn.
  • Cyfrannu at fecanweithiau adrodd, casglu data a chynnal archwiliadau.
  • Cyfrifol am gynnal safon uchel o wasanaeth i gleifion, gofalwyr ac ymwelwyr eraill. 
  • Bod yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol system e-bost trefnu SACT.
  • Yn gyfrifol am holl swyddogaethau personél a hyfforddiant tîm trefnu SACT.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster NVQ Lefel 4 neu gymhwyster/profiad gwaith cyfatebol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth da am egwyddorion cyfrinachedd
Meini prawf dymunol
  • ILM Lefel 2
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio gyda cymwysiadau Microsoft Office ar lefel uchel.
  • Gallu delio â set o wybodaeth a sefyllfaoedd sensitif a chymhleth. Profiad o ddelio ag amrywiaeth o bobl ar lefel uwch a thu hwnt.
  • Profiad o gynorthwyo gyda rheoli gwasanaeth gweithredol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad yn y GIG.
  • Wedi defnyddio Datix, meddalwedd rheoli risg
  • Profiad o ddefnyddio Chemocare

Addasrwydd a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau arwain a hyfforddi.
  • Ymrwymiad cryf i osod gwelliannau a targedau perfformiad gwasnaeth a'u cyflawni
  • Sgiliau dylanwadu a thrafod ar draws ystod o weithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasaneth
  • Gallu i gynnal gwaith cywir a chyflawni safonau uchel yn gyson ac o dan bwysau
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno
  • Gallu rhoi cyngor ac arweiniad cryno, gwneud argymhellion clir a chyraeddadwy.
  • Gallu rheoli amser drwy ddirprwyo effeithiol a gwneud penderfyniadau ar dasgau amrywiol gan sefydlu blaenoriaeth o fewn gofynion cystadleuol.
Meini prawf dymunol
  • Gallu meddwl yn arloesol, gyda thystiolaeth o sgiliau datrys problemau a'r gallu i gefnogi gweithredu newid
  • Gallu siarad Cymraeg neu ysgrifennu'r iaith

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Ymrwymiad i roi cleifion wrth wraidd yr hyn a wnawn
  • Unigolyn cymhelliol, brwdfrydig a gweithiwr caled.
  • Gallu cyflwyno ei hun yn broffesiynol, yn gwrtais, parchus ac o gymorth i eraill.
  • Sgiliau rhyngbersonol da ynghyd ag empathi. Parchu cyfrinachedd a hawliau'r claf

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mrs Beverley Johnson
Teitl y swydd
Administration Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 844556
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Mrs Emma Groves

Arweinydd Therapi Systemig Gwrth-ganser (SACT)

Gwasanaethau Cancr

1815 (01745 448788 x7061)

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg