Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 3
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (12 mis yn gyfnod sefydlog i gefnogi datblygiad gwasanaeth)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC552-0825
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Patholeg Gellog, Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/08/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cymorthwydd Ysgrifennydd Meddygol - Histopatholeg

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS OHERWYDD CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

Ydych chi’n berson rhagweithiol sydd â sgiliau trefnu da?

Yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd cyffrous sy’n datblygu?

Rydym eisiau cymorth i ein tîm sefydlog gyda'r cyfle cyffrous hwn ar gyfer Ysgrifenyddes Meddygol dros dro. Bydd angen i chi fod wedi eich ysgogi, yn hyblyg, yn gweithio ar eich liwt eich hun mewn sefyllfaoedd hynod gymhleth ar adegau, er mwyn rhoi cefnogaeth weinyddol ardderchog i’r uned. Drwy hyn, byddwch yn cyfrannu at wasanaeth effeithlon ac effeithiol mewn ffordd broffesiynol, sensitive a pharod eich cymorth Byddwch yn gweithio yn rhan o dîm sy’n cefnogi aelodau eraill o dîm a bydd angen i chi weithio’n agos gydag amrediad o staff. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae Swyddogaeth Ysgrifennydd y Tîm yn darparu gwasanaeth gweinyddol cefnogol, cyfrinachol a chywir ar gyfer Patholegwyr, a rheolwyr adrannau er mwyn darparu llwybr cleifion diogel ac effeithlon. Bydd deilydd y swydd yn cefnogi i ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol gweinyddol meddygol cynhwysfawr, o ansawdd uchel.

Pwrpas y Rôl: Cefnogi'r gwaith o gydlynu trefniadau gweinyddol i ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cefnogol o ansawdd uchel i'r timau clinigol, gweinyddol a thîm rheoli'r Adran Patholeg Gellol. Gweithio'n annibynnol a bod yn atebol am drefnu/blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun i sicrhau bod amserlenni'n cael eu bodloni.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ Gweinyddu Busnes L3 neu brofiad cyfatebol
  • RSA / OCR lefel 2 neu brofiad cyfatebol (rhaid iddo fod yn ddefnyddiwr hyfedr o air Microsoft.
  • cymhwyster cysylltiedig TG CLAIT plws / ECDL neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
  • AMSPAR – City & Guilds L3.
  • NVQ mewn gwasanaeth cwsmeriaid

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am amrywiaeth o brosesau gweinyddol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa brysur.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio o fewn y GIG

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol â staff ar bob lefel, yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • Gallu defnyddio Microsoft Office
  • Profiadol mewn cynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun
  • Hyblyg ac addasadwy i alwadau cyfnewidiol y gwasanaeth
  • Sgiliau trefnu rhagorol
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau cymryd cofnodion

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus
  • Gallu delio â gwybodaeth sensitif
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am sefydliadau'r GIG
  • Termau Meddygol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Angela Phillips
Teitl y swydd
Specialist Service Manager - Histology & Mortuary
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 844866
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Alison Davies

Rheolwr Gwasanaeth Patholeg Cellog

[email protected]

01745 448788 Est 2910

 

Amanda Savage

[email protected]

01745 448788 Est 2906

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg