Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cardioleg
- Gradd
- Gradd 6-7/7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 35 awr yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener 7 awr y dydd. 30 munud o egwyl cinio di-dâl)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR060-0126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Cardiadd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £39,263 - £55,532 Yn dibynnu pa fanyleb person sy'n cael ei gyfateb
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/02/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nyrs Adsefydlu Cardiaidd / Nyrs Arbenigol Adsefydlu Cardiaidd
Gradd 6-7/7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn ymarfer dan oruchwyliaeth fel uwch ymarferydd dan hyfforddiant ym maes adsefydlu cardiaidd. Bydd hyn yn cwmpasu'r sgiliau asesu, archwilio, diagnosis a thriniaeth o fewn cwmpas ymarfer cytunedig drwy gydol adsefydlu cardiaidd a gwasanaethau cysylltiedig.
Bydd deiliad y swydd yn anelu at weithio tuag at Gymhwyster Uwch Ymarferydd Nyrsio.
Mae'r rhaglen hyfforddi yn cynnwys cyfuniad o ddysgu sgiliau, agweddau a gwybodaeth glinigol yn y gweithle a modiwlau academaidd yn y brifysgol. Mae trylwyredd academaidd y lefel hon yn gofyn am amser astudio penodedig.
Dylid cwblhau'r rhaglen hyfforddi, yn amodol ar asesiadau boddhaol. Bydd yr hyfforddai wedyn yn symud ymlaen i fod yn Nyrs Uwch Adsefydlu Cardiaidd band 7.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thïm profiadol sy’n darparu gwasanaeth Adsefydlu Cardiaidd yng Ngogledd Cymru. Rydym yn edrych am nyrs sydd â chefndir yn y maes cardiolegol ag sydd wedi cyflawni cwrs MSc Ymarfer Clinigol Uwch, sydd wrthi’n gweithio tuag ato neu yn ymrwymo I gwblhau mewn 5 mlynedd. Pwrpas y swydd yma yw darparu gwybodaeth Adsefydlu Cardiaidd arbennigol ar gyfer cleifion, teulu a gofalwyr sy’n annog adferiad a hunan-reolaeth.
Bydd angen gweithio’n ymreolathol yn ogystal a body n rhan o dïm aml-ddisgyblaeth i sicrhau llwybr diogel ac effeithiol ar gyfer y claf.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd yma; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deilydd y swydd yn ymuno â'r tîm amlddisgyblaethol i gyfrannu at ddarpariaeth gofal adsefydlu cardiaidd mewn amgylchiadau gwahanol. Bydd y rôl yn cynnwys arwain ar ymyriadau adsefydlu cardiaidd a'u rhoi ar waith yn Conwy a Dinbych a bydd gofyn teithio
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymhwyster a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Hanfodol
Meini prawf dymunol
- Dymunol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Hanfodol
Meini prawf dymunol
- Dymunol
Gwerthoedd. Arall
Meini prawf hanfodol
- Hanfodol
Meini prawf dymunol
- Dymunol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emma Armstrong
- Teitl y swydd
- Cardiology Lead Nurse/ANP
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000845491
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sara Capper
Cardiac Rehabilitation Advanced Nurse
03000 858 647/08000 849828
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
