Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cardioleg
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 31.88 awr yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener 7 awr y dydd. 30 munud o egwyl cinio di-dâl)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR350-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Cardiadd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 29/06/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nyrs Adsefydlu Cardiaidd / Nyrs Arbenigol Adsefydlu Cardiaidd
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn gweithio fel Uwch Ymarferydd o fewn y tîm adsefydlu cardiaidd. Bydd gofyn iddo arddangos ei sgiliau asesu ac archwilio, rhoi diagnosis a thriniaeth o fewn cwmpas ymarfer cytunedig y gwasanaeth adsefydlu cardiaidd a gwasanaethau cysylltiedig.
Bydd deilydd y swydd yn anelu at ddarparu safon rhagorol o ofal ar draws y meysydd o uwch ymarfer clinigol gan gynnwys presgripsiynu annibynnol, arweinyddiaeth a rheoli, ymchwil ac addysg.
Bydd deilydd y swydd yn ymgymryd â thriniaethau adsefydlu cardiaidd i gleifion gydag amrywiaeth o gyflyrau cardiaidd mewn amrywiol leoliadau clinigol a lleoliadau mewn campfeydd yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas Brydeinig Atal ac Adsefydlu Cardiofasgwlaidd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’n tîm profiadol yn y gwaith o ddarparu Adsefydlu Cardiaidd. Rydym yn awyddus i benodi nyrs sydd â chefndir nyrsio helaeth mewn Cardioleg ac sy'n bresgripsiynydd annibynnol cofrestredig. Pwrpas y rôl yw darparu gwybodaeth, arbenigedd a sgiliau arbenigol sy’n hybu adferiad a hunanreolaeth i gleifion a'u teuluoedd o fewn Adsefydlu Cardiaidd.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i sicrhau llwybr diogel ac effeithiol i gleifion cardiaidd. Bydd gofyn i chi arwain a goruchwylio aelodau iau o staff a darparu penderfyniadau clinigol cadarn yn seiliedig ar dystiolaeth.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deilydd y swydd yn ymuno â'r tîm amlddisgyblaethol i gyfrannu at ddarpariaeth gofal adsefydlu cardiaidd mewn amgylchiadau gwahanol. Bydd y rôl yn cynnwys arwain ar ymyriadau adsefydlu cardiaidd a'u rhoi ar waith yn Conwy a Dinbych a bydd gofyn teithio
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymhwyster a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig NMC
- Wedi'i addysgu at lefel gradd gydag addysg lefel Gradd Meistr ôl-gofrestru mewn maes perthnasol neu â pharodrwydd gweithio tuag ato.
- Tystiolaeth mewn datblygiad proffesiynol parhaus
- Rhagnodwr annibynnol / atodol anfeddygol
- Dealltwriaeth dda o ddefnydd ymarferol o elfennau craidd adsefydlu cardiaidd h.y. safonau BACPR ac elfennau craidd ar gyfer adsefydlu ac atal cardiofasgwlaidd.
- Knowledge of relevant National guidelines eg NICE, ESC, Welsh Government
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu
- Gwybodaeth am systemau gofal cychwynnol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth ar ôl cofrestru, yn cynnwys profiad sylweddol mewn gofal cardiaidd a phrofiad blaenorol ar Fand 6/7.
- Profiad o gydlynu gofal cleifion a'i reoli
- Profiad o arwain, a chynnal archwiliad a/neu ymchwil i ddatblygu ac arwain datblygiad arfer
Meini prawf dymunol
- Gallu cydnabod eich gwendidau eich hun ac anghenion datblygu
- Wedi ymgymryd â gweithgareddau sy'n seiliedig ar ymchwil/archwiliad
Gwerthoedd. Arall
Meini prawf hanfodol
- Trafodwr galluog gydag uwch sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu
- Gallu i weithio'n gefnogol gydag aelodau tîm, a gweithredu fel esiampl, gyda chydweithwyr yn dod atoch yn aml am gefnogaeth gyda datrys problemau.
- Gweithiwr tîm ymroddgar gyda'r gallu i ddangos angerdd dros adsefydlu cardiaidd a'i rôl mewn gofal cleifion
Meini prawf dymunol
- Diddordeb mewn symud datblygiad nyrsio cardiaidd ymlaen
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Wayne Tomlinson
- Teitl y swydd
- Heart failure Lead Nurse/ANP
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000845090
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sara Capper
Cardiac Rehabilitation Advanced Nurse
03000 858 647/08000 849828
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
