Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffotograffiaeth Glinigol
- Gradd
- Gradd 5 - Annex 21
- Contract
- Cyfnod Penodol: 18 mis (Gyfnod penodol)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS307-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 Atodiad 21 70% pen uchaf Band 5 12 mis, 75% am 6 mis
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 05/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/07/2025
Teitl cyflogwr

Ffotograffydd Clinigol dan Hyfforddiant
Gradd 5 - Annex 21
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gontract cyfnod penodol o 18 mis sy’n dechrau ar ddydd Llun 1 Medi 2025 ac yn dod i ben ar ddydd Gwener 26 Chwefror 2027.
Mae’r Adran Darlunio Meddygol yn darparu gwasanaeth delweddu ffotograffig o ansawdd uchel i gefnogi gofalu am gleifion, diagnosis a hyfforddiant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd y swydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd, lle rydym yn darparu gwasanaeth ar gyfer y Bwrdd Iechyd i gyd.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig â gradd ffotograffiaeth i ymuno a’r adran fel rhan o’n tîm gweithgar. Rydym yn cwmpasu nifer o arbenigeddau ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r rhain yn cynnwys Dermatoleg, Yr Ên a’r Wyneb, Orthodonteg a Gofal am Glwyfau.
Bydd y Ffotograffydd Clinigol dan Hyfforddiant (Band 5, Atodiad 21) yn meithrin ei sgiliau a’i brofiad er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y dyletswyddau a’r cyfrifoldebau a nodir yn y disgrifiad swydd hwn. Bydd hyn yn ei alluogi i fod yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd Ffotograffydd Clinigol Band 5 sydd wedi cymhwyso.
Bydd yr hyfforddai’n ymgymryd â Diploma Lefel 7 mewn Ffotograffiaeth Glinigol a bydd gofyn i’r unigolyn ymrwymo i oriau ychwanegol y tu hwnt i’r diwrnod gwaith er mwyn cwblhau’r cymhwyster.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio mewn tîm o ffotograffwyr clinigol i gynhyrchu ffotograffau clinigol / fideos i gynorthwyo gofalu am gleifion, diagnosis, addysgu, ymchwil a chyhoeddiadau. Bydd deilydd y swydd yn cynnig ystod o sgiliau a gwybodaeth am ffotograffiaeth i gynorthwyo amrywiaeth o dimau amlddisgyblaethol ar draws ystod o arbenigeddau clinigol yn y sefydliad. Gan weithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau clinigol, bydd deilydd y swydd yn defnyddio cyfuniad o dechnegau ffotograffig safonol ac ansafonol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Meddu ar radd Anrhydedd neu gymwysterau cyfwerth, mewn ffotograffiaeth neu bwnc cysylltiedig a'r cyfryngau sy'n canolbwyntio ar ffotograffiaeth. Fel arall, rhaid i ddysgwyr fod ag o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith ffotograffig proffesiynol perthnasol.
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ymchwil gefndir i'r proffesiwn darlunio meddygolm a'r GIG
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cyhoeddus/gwasanaeth
- Profiad o weithio mewn adran ffotograffiaeth feddygol
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Dangos lefel dda o sgil technegol mewn ffotograffiaeth ddigidol. Arddangos sgiliau ffotograffig mewn gwahanol amgylcheddau gan gynnwys stiwdio ac ar leoliad. Arddangos sgiliau cyfansoddi a chanfyddiad gweledol.
- Dangos lefel dda o lythrennedd cyfrifiadurol, yn enwedig gyda meddalwedd delweddu digitol
- Arddangos sgiliau cyfathrebu da mewn amrywiaeth o leoliadau a chydag amrywiaeth o bobl
- Dangos gallu i weithio fel aelod o dîm
- Arddangos sgiliau trefnu
- Dangos awydd am ddatblygiad personol a phroffesiynol a chymwysterau
Meini prawf dymunol
- Arddangos sgiliau ffotograffiaeth mewn amrywiaeth o bynciau, e.e ffotograffiaeth bywyd llonydd a phortreadu. Dangos rheolaeth dros oleuadau ar leoliad ac yn y stiwdio
- Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol, lefelau 1 i 5 mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Leilani Winslade
- Teitl y swydd
- Lead Senior Medical Illustration
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000844944
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector