Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cymuned ac Adsefydlu
Gradd
Gradd 2
Contract
10 mis (Contract cyfnod penodol tan 31.03.2027 oherwydd cyllido)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Dyddiau a nosweithiau)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS630-0726
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£26,300 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/07/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Gofal Iechyd

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am gyfnod penedol /secondiad tan 31.03.2027 oherwydd cyllido.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

Mae’r Uned Rhyddhau yn chwilio am Gynorthwyydd Gofal Iechyd brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant i ymuno â’r tîm.Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm gweithgar iawn sy’n canolbwyntio ar gefnogi rhyddhau cleifion yn ddiogel, yn amserol ac yn effeithiol o ofal ysbyty i’r cartref, gwasanaethau adsefydlu neu ofal yn y gymuned.Ein nod yw sicrhau profiad cadarnhaol i bob claf a theuluoedd sy’n defnyddio ein gwasanaeth, ac rydym yn gobeithio gwella llif cleifion a lleihau arhosiadau ysbyty diangen.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rôl y Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn yr Uned Rhyddhau yw darparu cymorth gyda gofal yn yr ardaloedd arhosiad byr a hir.

Y nod yw darparu gofal diogel, tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gefnogi cleifion i baratoi ar gyfer rhyddhau a throsglwyddo’n ddiogel i’r cartref neu leoliad gofal arall.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg yn cael eu hannog yn gyfartal i wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w weld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg gyffredinol dda - Tystiolaeth o gwblhau'r FfCCh ar Lefel 2/i gael neu gymhwyster cyfatebol o fewn 6 mis tra byddant yn y swydd
Meini prawf dymunol
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth o rol a swyddogaeth y Gwasanaethau Iechyd.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Rol flaenorol / gyfredol i ddangos gweithio gydag aelodau o'r cyhoedd
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i gynnal cofnodion cywir clir a sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu effeithiol.
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o reoli risg a materion iechyd a diogelwch.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Chwaraewr tim a'r gallu i weithio'n hyblyg pan fo angen i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sophie Dineen
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 844407
Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Uned Rhyddhau, Ward 14
03000 844304
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg