Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ecocardiograffydd
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Llun - Gwener 9-5pm + ymrwymiad ar alwad)
Cyfeirnod y swydd
050-HS004-0226
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£48,527 - £55,532 pro rata y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/02/2026 08:00

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ffisiolegydd Cardiaidd Arbennigol Iawn Ecocardiograff

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Crynodeb y swydd

Mae’r gyflau wedi’i godi i Echocardiograffydd brwdfrydig, profiadol a chymwys ymuno â'n tîm. Rhaid i'r ymgeisydd lwyddiannus fod wedi'i achredu gan BSE ac yn gymwys i gyhoeddi adroddiadau echo yn annibynnol, gan ddarparu addysgu i staff feddygol a ffisiolegydd eraill. Bydd gennych radd BSc mewn ffisioleg glinigol neu gyfwerth, achrediad Cymdeithas Echocardiograffeg Prydain, aelodaeth ac achrediad ILS/ALS.

 

Ynglŷn a’r adran

Mae’r adran Ffisioleg Cardiaidd yn Ysbyty Glan Clwyd yn darparu ystod o brofion arbenigol ymledol a di-ymledol. Mae ganddi ystod o arbenigwyr sy'n cefnogi mewnblannu a rheoli dyfeisiau cardiaidd ochr yn ochr â wasanaethau echocardiograffeg. Mae Canolfan y Galon Gogledd Cymru wedi'i lleoli ar safle Glan Clwyd ac yn darparu gwasanaeth PCI sylfaenol 24/7. Mae'n gartref i ddau labordy cathetr sydd â’r gallu llawn ar gyfer pob agwedd ar ymyrraeth goronaraidd, rheolyddion calon bradycardia a recordwyr mewnblanadwy y galon.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol a byddwn yn darparu cyfle, anogaeth a chefnogaeth i ffisiolegwyr sy'n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau. Rydym yn adran sy'n gydwybodol ac sydd â hachrediad adrannol BSE ar hyn o bryd. Os hoffech fod yn rhan o'n dyfodol gyda thîm cyfeillgar ac ymroddedig, byddem yn croesawu eich cais.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Ymrwymiad “ar alwad”

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus i gael y swydd gymryd rhan fel aelod o dîm Labordy Cathetr y Galon sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan y Galon Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd. Bydd hyn yn cynnwys gweithio fel rhan o'r tîm yn ystod oriau gwaith arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener a hefyd drwy gymryd rhan yn y tîm ar alwad y tu allan i'r oriau hyn. Argymhellir bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn byw o fewn pellter i fod ar y safle o fewn 30 munud pan “ar alwad”, fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl, gellir darparu llety yn y fflat "ar alwad" cardioleg pan fydd “ar alwad”. Darperir amser gorffwys priodol i rhai adegau ble fydd y galwad o fewn amser anghymdeithasol. Darperir hyfforddiant a chefnogaeth lawn ym mhob agwedd ar wasanaeth labordy cathetr y galon i'r ymgeisydd llwyddiannus.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Claire Gallagher
Teitl y swydd
Head of Cardiac Physiology Dept
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01745448367
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Claire Gallagher

Ebost : [email protected]
Tel: 0300846500

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg