Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Endosgopi
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 Awr yr wythnos)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC519-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/08/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweinyddwr Endosgopi JAG FIT
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn brwdfrydig a threfnus iawn i ymuno â'n tîm Endosgopi yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae sgiliau cyfathrebu/rhyngbersonol rhagorol yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun i ddatrys problemau wrth iddynt godi.
Bydd gan deiliad y swydd sgiliau rheoli amser ardderchog, bod yn drefnus a bod ganddynt y gallu i flaenoriaethu galwadau llwyth gwaith i gwrdd â therfynau amser caeth, tra'n cynhyrchu gwaith i'r safonau uchaf.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cael y gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm, gan ddefnyddio disgresiwn, barn a blaengaredd. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog yn hanfodol ynghyd â llygad craff am fanylder.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn gallu cynnal cyfrinachedd cleifion a sicrhau safon uchel o ofal cwsmer ar bob adeg.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyffredinol
- Gweithio o fewn eich gwybodaeth a phrofiad eich hunan a pholisïau BIPBC.
- Cynllunio a threfnu gwaith eich hunan
- Cynnal a sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol yn gyfredol
- Cydlynu â rheolwyr/arweinwyr adrannol perthnasol yn ôl yr angen.
- Cynnal adroddiadau sy'n benodol i'r gwasanaeth i wella darpariaeth.
- Gosod archebion ar system archebu Oracle gan sicrhau bod danfoniadau'n bodloni'r ffiniau amser a sicrhau bod cynnydd yn cael ei adrodd ar ddanfoniadau sy'n hwyr.
- Darparu traws-gyflenwi ar gyfer y clercod trefnu apwyntiadau endosgopi a'r derbynnydd yn ôl yr angen i gefnogi'r gwasanaeth.
- Ymweld â meysydd clinigol/anghlinigol eraill yn ôl yr angen a darparu a chasglu cyfeiriadau/gwybodaeth yn ôl yr angen
- Cynnal cronfa ddata o gyfeiriadau a dderbyniwyd a chymryd y camau angenrheidiol i ddatrys ymholiadau.
- Sicrhau bod system yn ei lle i ddod â holl ganlyniadau FIT i sylw'r clinigwr perthnasol
- Cynorthwyo gyda chofnodi gwybodaeth yn gywir a chynnal cronfeydd data ar gyfeiriadau a dderbyniwyd/canlyniadau a darparu adroddiadau cryno rheolaidd
- Gweithio gyda rheolwr yr uned i gefnogi'r gwaith o gydlynu archwiliadau, asesiadau a chyflwyniadau JAG.
- Darparu cefnogaeth weinyddol i'r broses asesu.
- Darparu cefnogaeth weinyddol i'r arweinwyr JAG
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Hyd at safon TGAU ar gyfer Mathemateg a Saesneg neu brofiad cyfatebol.
- Gofyniad i fod a NVQ lefel 3 neu brofiad cyfatebol.
Meini prawf dymunol
- ECDL
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithdrefnau swyddfa a gweinyddol
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn mwy nag un maes clinigol
- Profiad o reoli dyddiaduron clinig/amserlenni apwyntiadau
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfathrebun glir ac yn fanwl, yn llafar ac yn ysgrifenedig.
- Dangos ystod o brofiad ar gallu i gymhwyso hyn iw arferion.
- Dangos cyfraniad effeithiol diweddar i weithion amlddisgyblaethol.
- Craffter
- Gallu dynodi cysylltiadau a phroblemau posibl wrth asesu sefyllfa
- Sylwgar
- Sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol
- Dangos dealltwriaeth dda o archwilio ac ymchwil a chymhwyso hynny yn ymarferol.
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
- Profiad o reoli stoc
- Profiad o ddeall ymchwil ac archwilio
Gwerthoedd/Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau TG mewn Microsoft Office (Outlook, Excel, Word)
- Cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Karen Stopforth
- Teitl y swydd
- Clerical Services Coordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845038
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector