Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Llywodraethu
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC683-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
13/10/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cymorth Gweinyddu Llywodraethu Clinigol

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi’n angerddol am wella diogelwch cleifion ac annog arferion clinigol gorau? Mae cyfle gwych wedi codi i unigolyn ymroddedig, manwl gywir ymuno â’n Tîm Llywodraethu Ansawdd, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol i dimau clinigol ar draws y sefydliad.

Fel aelod o’r tîm Cymorth Gweinyddol Llywodraethu Clinigol, byddwch yn cyfrannu at ddarpariaeth gofal o ansawdd uchel drwy gefnogi prosesau llywodraethu, rheoli gohebiaeth sensitif, a sicrhau bod yr holl ddogfennaeth yn cael ei thrin gyda disgresiwn a phroffesiynoldeb. Byddwch yn rhan o dîm rhagweithiol, blaengar sy’n gweithio’n gydweithredol i gynnal y safonau uchaf o ddiogelwch, cydymffurfiaeth ac arbenigedd clinigol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rhoi cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol i'r tîm Llywodraethu Clinigol gan sicrhau disgresiwn a chyfrinachedd bob amser.

Bydd gofyn i ddeilydd y swydd weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, gan roi cymorth gweinyddol rhagweithiol i'r tîm Llywodraethu Clinigol a chydlynu trefniadau ysgrifenyddol y tîm o ddydd i ddydd yn esmwyth ar gyfer y Nyrs Arweiniol Llywodraethu Clinigol.

Bydd deilydd y swydd yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y Tîm Llywodraethu Clinigol a bydd yn sgrinio galwadau gan staff eraill y Bwrdd Iechyd, y cyhoedd ac adrannau neu asiantaethau allanol, gan ymateb yn ddoeth a chwrtais, blaenoriaethu materion, gwneud penderfyniadau am ddatgelu gwybodaeth yn briodol a chadw atamserlenni.

Bydd deilydd y swydd yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Llywodraethu Clinigol i sicrhau bod galwadau sy'n dod i mewn yn cael eu brysbennu'n gywir a'u cyfeirio'n briodol er mwyn rhoi ymateb o ansawdd uchel. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • TGAU Saesneg a Mathemateg
  • CGC Lefel 3
  • Cymwysterau teipio RSA 3 neu gyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau mewn gweithdrefnau clercyddol a gweinyddol
  • Profiad o drin gwybodaeth gyfrinachol

Tueddfrydau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar effeithiol ac arbennig.
  • Sgiliau clercyddol a gweinyddol ardderchog.
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser ardderchog.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
[email protected]
Teitl y swydd
Quality Governance Facilitator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 846862
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg