Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ysgrifennydd Meddygol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 31.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC312-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ysgrifennydd Meddygol
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn cefnogi darparu gwasanaeth ysgrifenyddol gweinyddol meddygol cynhwysfawr, o ansawdd uchel.
Gan weithio fel rhan o dîm bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol effeithiol ac effeithlon i'r tîm, gan gefnogi cyflwyno gwasanaeth o ansawdd uchel i gleifion a staff.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn hynod hyblyg i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth, yn cael personoliaeth dymunol ac agwedd gadarnhaol tuag at eu gwaith. Mae'n rhaid i ymgeiswyr hefyd gael safon dda o addysg, yn hyblyg ac yn meddu ar sgiliau trefnu da.
Profiad ysgrifenyddol feddygol blaenorol a gwybodaeth am y System Gweinyddu Cleifion (WPAS) yn hanfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd prif ddyletswyddau’r rôl yn cynnwys teipio / fformatio llythyrau clinig ac adroddiadau o ddeunyddiau sy’n cael eu harddweud, yn brydlon ac yn effeithiol gan sicrhau cywirdeb.
Mae'r gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
O ystyried natur y dyletswyddau, bydd angen i ddeilydd y swydd gadw cyfrinachedd llym a bydd gofyn iddo ddelio â chleifion / gofalwyr / perthnasau, staff PBC a sefydliadau allanol gyda pharch a disgresiwn. Bydd gofyn iddo weithio ar ei liwt ei hun, yn effeithiol ac yn drefnus iawn.
Mae’n hanfodol fod gan yr ymgeiswyr sgiliau bysellfwrdd uwch a chymwysterau clyw deipio/prosesu geiriau, gyda gwybodaeth waith am becynnau Microsoft Office. Dylai ymgeiswyr hefyd feddu ar safon addysg dda, sgiliau cyfathrebu rhagorol a gwybodaeth dda o dermau meddygol.
Bydd gofyn hefyd i ddeilydd y swydd fod yn rhan o’r tîm gweinyddol ehangach a chynorthwyo gyda’r cefnogaeth weinyddol cyffredol i’r gwasanaeth Dieteteg fel bo angen.
Manyleb y person
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth o ystod o weithdrefnau gweinyddu
- Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio o fewn y GIG
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol â staff ar bob lefel, yn llafar ac yn ysgrifenedig
- Gallu defnyddio Microsoft Office
- Profiadol mewn cynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun
- Hyblyg ac addasadwy i alwadau cyfnewidiol y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Sgiliau cymryd cofnodion
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus
- Gallu delio â gwybodaeth sensitif
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am sefydliadau'r GIG
- Termau Meddygol
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- NVQ Gweinyddu Busnes L3 neu brofiad cyfatebol
- RSA /OCR lefel 2 neu brofiad cyfatebol (rhaid gallu defnyddio Microsoft Word)
- Cymhwyster yn ymwneud â TG CLAIT plus /ECDL neu gyfatebol
Meini prawf dymunol
- NVQ L3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Karen Stopforth
- Teitl y swydd
- Clerical Services Co-ordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845038
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
