Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- meddygaeth
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (Dydd Llun a Dydd Gwener - bydd yr oriau'n newid yn wythnosol rhwng 8yb i 4yp, a 9yb i 5yp)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC719-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan y Galon Gogledd Cymru, Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 20/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweinyddwr - Cath Lab a Ffisioleg Gardiaidd
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous ar gael i ymuno â thîm gweinyddu Cath Lab a Ffisioleg Cardiaidd yn Ysbyty Glan Clwyd fel Gweinyddwr/Derbynnydd.
Fel rhan o'r tîm prysur iawn hwn, disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg iawn o ran agwedd at anghenion gwasanaeth, bod â phersonoliaeth ddymunol ac agwedd gadarnhaol at ei waith. Mae angen sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Lefel uwch o sgiliau derbyn ynghyd â'r gallu i ddelio â materion sensitif a gwybodaeth gyfrinachol iawn i gleifion. Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod â safon dda o addysg, bod yn hyblyg a meddu ar sgiliau trefnu da. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth gweinyddol o'r radd flaenaf i'r adran.Byddai gwybodaeth flaenorol o weithio o fewn amgylchedd ysbyty yn ddymunol, ond nid yn hanfodol, fel y byddai'r gallu i siarad Cymraeg.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio mewn amgylchedd prysur i ddarparu swyddogaeth weinyddol broffesiynol, cywir a phrydlon i hwyluso darparu gwasanaeth trefnu apwyntiadau proffesiynol, effeithlon ac effeithiol am amrywiaeth o glinigau diagnostig.
Defnyddio ei fenter ei hun mewn sefyllfaoedd sydd weithiau'n gymhleth i sicrhau bod apwyntiadau cleifion yn cael eu trefnu yn unol â thargedau mynediad lleol a chenedlaethol.
Ymdrin â materion sensitif a chyfrinachol sy'n ymwneud â materion Cardioleg sy'n effeithio ar gleifion, y cyhoedd a staff yn unol â'r canllawiau.
Fel aelod o'r Tîm Gweinyddol, mae agwedd hyblyg at y swydd yn hanfodol er mwyn gallu blaenoriaethu'r gwahanol lwythi gwaith a dyletswyddau.
Mae angen sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol i gyflawni dyletswyddau gyda doethineb, diplomyddiaeth a sensitifrwydd, yn enwedig lle mae rhwystrau i ddealltwriaeth. Gwneud penderfyniadau a barnau cadarn gan ddefnyddio blaengaredd a lefel o awdurdod fel y cytunwyd gyda'r Rheolwr Llinell.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r strwythur, polisïau, rheolaeth a gweithdrefnau gweithredol o fewn yr adran a’r Bwrdd Iechyd yn ôl yr angen er mwyn delio ag ymholiadau mewnol ac allanol mewn modd cymwys a hyderus.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Saesneg a Mathemateg ar lefel TGAU neu gyfwerth.
- • NVQ lefel 3 Gofal Cwsmeriaid neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- • Cymhwyster TG
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o waith clercyddol/derbynfa
- Y gallu i ganolbwyntio ar ddyletswyddau gweinyddol mewn amgylchedd anrhagweladwy, y gallu i reoli gwaith gydag ymyriadau cyson gan staff meddygol a ffonau
- Gallu cyfathrebu gwybodaeth yn glir ac yn sensitif wyneb yn wyneb a thros y ffôn.
- Y gallu i weithio i derfynau amser caeth a blaenoriaethu tasgau.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am amseroedd cyfeirio i driniaeth a llwybrau cleifion
- Profiad blaenorol o reoli rhestrau aros.
- Gwybodaeth am strwythurau a phrosesau’r GIG.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jo Williamson
- Teitl y swydd
- Cardiac Data Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845511
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector