Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cydlynydd Gofal Clefyd Niwronau Motor
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae’n bleser gennym gynnig y cyfle cyffrous hwn am ddau weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol sydd â phrofiad a chofrestriad priodol i weithio fel rhan o’r Gwasanaeth Cydlynwyr Gofal MND sy’n gweithio ledled Gogledd Cymru. Mae rôl y Cydlynydd Gofal MND yn gyfrifol am gydlynu gofal a chymorth i bobl sy'n byw gydag MND yng Ngogledd Cymru.
Lleolir deilydd y swydd yn Ardal y Gorllewin (a bydd yn gwasanaethu Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a rhan o Sir Ddinbych) neu Ardal y Dwyrain ( Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) . Fel arfer, bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio o ddydd Llun i ddydd Mercher nau dydd Mercher i ddydd Gwener bob wythnos, rhwng 9am a 5pm, gan gyflenwi yn ystod yr wythnos.
Croesawir ceisiadau gan weithwyr proffesiynol sydd wedi'u cofrestru ag unrhyw gorff proffesiynol ym meysydd iechyd neu ofal cymdeithasol, e.e. nyrsio, gwaith cymdeithasol neu'r proffesiynau perthynol i iechyd.
Os oes gennych chi gymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau perthnasol, ac awydd cryf i wella gofal i bobl sydd ag MND a'u teuluoedd, byddai'n dda gennym glywed gennych.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Disgwylir i ddeilydd y swydd wneud y canlynol:
- Darparu cymorth yn lleol i gleifion sydd wedi cael diagnosis yn cadarnhau MND yng Ngogledd Cymru fel cyswllt allweddol.
- Olrhain cleifion ar hyd eu llwybr clefyd o'r diagnosis hyd at ddiwedd oes.
- Cydlynu gofal amlddisgyblaethol lleol i gleifion sydd ag MND ledled Gogledd Cymru ym meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd a gofal gan y trydydd sector, gan sicrhau y gall cleifion gael mynediad at ofal o ansawdd uchel sy'n cydymffurfio â chanllawiau ynghylch arferion gorau.
- Cysylltu â'r Niwrolegwyr Ymgynghorol a'r Ganolfan Gofal MND yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Walton yn Lerpwl i gael mewnbwn arbennig ynghylch gofal MND.
- Bod yn bwynt cyswllt unigol ar gyfer cleifion sydd â Chlefyd MND, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol fel adnodd i gynnig gwybodaeth, cyngor a chyfeirio.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad â chorff proffesiynol (nyrsio, corff therapi perthnasol e.e. Ffisiotherapi, Therapi Lleferydd ac Iaith, Therapi Galwedigaethol)
- Gradd 1af berthnasol neu dystiolaeth / yn gweithio tuag ati, ynghyd â hyfforddiant neu brofiad arbenigol lefel diploma
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru sylweddol gan gynnwys profiad sy'n berthnasol i ofal lliniarol a gweithio yn y gymuned
- Ystod eang o brofiad cymunedol o arbenigedd
- Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
- Dangos sgiliau a phrofiad o arwain
Meini prawf dymunol
- Profiad o ofalu am gleifion gyda chyflyrau niwrolegol sy'n gwaethygu
- Gweithio yn y lleoliad cymunedol
- Addysgu sgiliau a phrofiad
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwasanaethau cyfredol i gleifion â chlefyd niwronau motor yng Ngogledd Cymru
- Datblygiadau a materion cyfredol ym maes clefyd niwronau motor
- Y broses o ymchwilio.
- Safonau Gofal a chanllawiau cenedlaethol Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor.
- Polisi gofal iechyd ar gyfer gwasanaethau niwrolegol
Medrau
Meini prawf hanfodol
- Meddu ar y gallu i wneud penderfyniadau clinigol yn annibynnol.
- Y gallu i reoli gwaith yn annibynnol.
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu effeithiol.
- Dangos dealltwriaeth dda o'r broses archwilio ac ymchwil a'r ffordd y caiff ei chymhwyso mewn ymarfer.
- Y gallu i ddylanwadu ar amharodrwydd a'i oresgyn drwy gymhwyso gwybodaeth a sgiliau clinigol arbenigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o gynnal ymchwiliad/archwiliad.
- Hyfforddiant pellach mewn sgiliau cyfathrebu
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alison Foster
- Teitl y swydd
- Head of Nursing for Specialist Palliative Care
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 857727
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dr Elizabeth Williams, Meddyg Arbenigol Cyswllt Meddygaeth Liniarol / Cadeirydd MND DSAG
- Rhif ffôn: 03000 851667
- E-bost: [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector